Samsunear Ali
Ymddiriedolwr

Fy nghefndir
Mae fy nghefndir mewn Rheolaeth Ariannol ac mae gen i fwy nag 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector elusennau. Dyna a’m galluogodd i ddatblygu a gweithio mewn llawer o feysydd eraill gan gynnwys Rheoli Prosiect, Rheoli Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch, Cyfreithiol a Chydymffurfio, Llywodraethu, Achrediadau, Comisiynu, Lobio, Ymgyrchu, Cyllido ac Adrodd yn ôl. Rwy’n gobeithio y gallaf, gyda’m profiad, gyfrannu’n bositif at Sefydliad Cymunedol Cymru.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n gweithio ym maes Cam-drin Domestig, Priodi Gorfodol, FGM (anffurfio organau cenhedlu benywod) a Cham-drin ar sail Anrhydedd. Rwy’n angerddol dros gydraddoldeb rhyw. Mae fy sefydliad yn gweithio i ddarparu gwasanaethau’r rheng flaen mewn cymunedau. Felly, rwyf mewn sefyllfa i ddylanwadu ar bolisïau ar lefel y llywodraeth.
Holwch fi ynghylch...
Weithio gyda’r Gymuned Ddu a Lleiafrifol Ethnig (BME) trwy ymestyn allan at y cymunedau sy’n cael eu galw’n rhai anodd eu cyrraedd. Gan fy mod o gefndir BME rwy’n ymwybodol o’r broblemau a’r rhwystrau y mae ein cymuned yn eu wynebu. Gyda’n gilydd gallwn helpu grwpiau bregus i ffynnu ac i ddatblygu i gyrraedd eu llawn potensial.
Pam rwy’n caru Cymru
cefais fy ngeni yng Nghymru ac rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes. Mae pedair cenhedlaeth o’m teulu’n byw yng Nghymru. Roedd fy nhad, a ddaeth i Gymru yn y 1950au, yn arloeswr sbeis cymysg a chyflwynodd gig halaal i Gymru. Roedd ganddo sioe ar BBC Wales y llynedd, y cyfan ynghylch ei gyfraniad i Gymru. Mae Cymru mor amrywiol ac mor gyfoethog ei diwylliant. Rwy’n caru’r tirlun amrywiol gyda chymysgedd o fywyd gwledig a dinasol. Rwyf wrth fy modd yn teithio ac rwyf wedi teithio i’r rhan fwyaf o Gymru.