Sarah Jennings
Ymddiriedolwr

Fy nghefndir
Fe ddeuais i Gymru yn 2000 a gweithio am ddeng mlynedd i Gyngor Sir Caerfyrddin cyn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda pan gafodd ei ffurfio. Roeddwn i yno am ddegawd yn Gyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol. Fis Medi 2020, fe symudais i ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Ar hyn o bryd rwy’n Gyfarwyddwr Cysylltiadau, Cwsmeriaid a Masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys sicrhau fod gwaith caffael a gwaith masnachol Ystâd Coetir a thir Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â nodau Rheolaeth Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru a’u bod yn cyfrannu at ymdrin â’r argyfyngau hinsawdd ac amgylcheddol rydym yn eu hwynebu.
Rwyf hefyd yn gyfrifol am y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cyfathrebu gyda, ac yn cynnwys, cwsmeriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd a bod yna ddiwylliant gwirioneddol o fod yn agored, o gyd-gynhyrchu ac o gysylltiad parhaus.
Holwch fi ynghylch
Cyfathrebu a chynnwys pobl mewn prosiectau a phenderfyniadau, caffael arloesol a datblygu busnes masnachol (coed, ynni, twristiaeth a hamdden) sy’n arwain at atebion cynaliadwy ledled Cymru. Sut i ddygymod â bod yn riant sengl plentyn egnïol 7 mlwydd oed a charu fy swydd yr un pryd.
Pam rwy'n caru Cymru
Mae Cymru yn wlad fach a chlyfar gyda diwylliant ac iaith sy’n gynnes a chyfoethog a chymunedau clós. Mae ganddi’r dirwedd naturiol fwyaf anhygoel ac mae ein harfordir a’n cefn gwlad yn codi fy nghalon – gwlad Duw ei hun! Rydym yn cydweithio ar bob rhan o’n gwasanaethau cyhoeddus ac mae pobl wir yn poeni am bobl eraill.
Mae’n lle hyfryd i fagu teulu, ac er ei bod hi’n fach, mae ganddi syniadau mawr ac mae’n awyddus iawn i wella dyfodol pawb sy’n byw yma.