Tanwen Grover
Ymddiriedolwr

Fy nghefndir
Mae fy nghefndir mewn ymchwil cymdeithasol, gwerthuso a datblygu polisi. Rwy’n gweithio fel cydymaith ymchwil annibynnol, ac yn ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau i sefydliadau’r sector cyhoeddus ac elusennau.
Yn benodol, dw i’n canolbwyntio ar addysg a sgiliau, cyflogaeth, cymunedau a chynhwysiant cymdeithasol, pobl ifanc a theuluoedd, a’r Gymraeg.
Rwyf hefyd wedi gweithio ar archwilio perfformiad a rhannu arferion da ar draws y sector cyhoeddus, yn ogystal â gweithio a gwirfoddoli i wahanol elusennau.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n Ymddiriedolwr, sy’n golygu fy mod i, ochr yn ochr ag Ymddiriedolwyr eraill, yn gyfrifol yn y pen draw am reoli Sefydliad Cymunedol Cymru.
Rwy’n helpu i ddatblygu cyfeiriad strategol y Sefydliad Cymunedol, monitro cynnydd a chyllidebau, rheoli risgiau a gweithredu fel llysgennad i’r Sefydliad Cymunedol pryd bynnag y bo modd.
Yn benodol, rydw i’n Gadeirydd y Pwyllgor Grantiau lle rydym yn darparu cyfeiriad strategol i wneud grantiau’r Sefydliad Cymunedol. Rwyf hefyd yn eistedd ar baneli grantiau, gan helpu i ddyfarnu cyllid.
Holwch fi ynghylch
Y ffordd rydym yn cefnogi cymunedau gyda phroses rhoi grantiau dda a pham ein bod mewn sefyllfa dda i helpu pobl i roi i gymunedau yng Nghymru yn effeithiol.
Pam rwy'n caru Cymru
Rwyf wedi byw yng Nghymru am y rhan fwyaf o’m bywyd ac rwy’n hoff iawn o’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n bodoli ar hyd a lled Cymru.
Rwyf hefyd yn hoff iawn o heicio ac mae Cymru yn lle perffaith i ddarganfod tirweddau syfrdanol – mae ein parciau cenedlaethol yn wych!
Rwyf hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl ac rwy’n hoff o’r sŵn cynnes, cyfeillgar a hyfryd sydd i’r iaith.