Cronfa i Gymru

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae’r cronfa hon wedi cau ar hyn o bryd. Bydd y gronfa hon yn agor yn gynnar yn 2027 (yn amodol ar newid). Bydd cyfarfodydd panel yn cael eu cynnal yn fisol, ac rydym yn anelu at hysbysu ymgeiswyr am eu canlyniad o fewn dau fis ar ôl eu cyflwyno.

Cliciwch y botwm isod i wylio ein fideos cam-wrth-gam, cael mynediad at ganllawiau, a darllen ein Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu i wneud cais drwy ein Hwb Grantiau.

Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig.

Mae’r gronfa ar hyn o bryd yn cael ei chefnogi drwy bartneriaeth gyda Postcode Lottery, ochr yn ochr â chyfraniad gan Tiny Rebel and Goodwash.

Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.

Canlyniadau’r Gronfa:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd,
  • Adeiladu cymunedau cryfach,
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol,
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol,
  • Gwarchod treftadaeth a diwylliant.

Bydd Cronfa Cymru chyfarfodydd panel yn cael eu cynnal tua diwedd pob mis i adolygu ceisiadau a dosbarthu cyllid ar sail dreigl (yn amodol ar newid). Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o’r canlyniad o fewn dau fis ar ôl ei gyflwyno.

Y grantiau sydd ar gael

Mae grantiau rhwng £500 a £2,500 y flwyddyn am hyd at dair blynedd, ar gael i sefydliadau y mae eu ceisiadau’n cyflawni orau yn erbyn y canlyniadau uchod.

Rydym yn gobeithio dyfarnu o leiaf chwe grant aml-flwyddyn; Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid aml-flwyddyn ac yn aflwyddiannus, mae posibilrwydd o dderbyn blwyddyn o gyllid o hyd.

Pwy all wneud cais?

Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau nad ydynt erioed wedi derbyn arian o’r Gronfa hon o’r blaen.

Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Grwpiau gyda chyfansoddiad
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmni cyfyngedig gan warant
  • Cwmnïau buddiannau cymunedol
  • Mentrau cymdeithasol

Sylwer: Os ydych chi’n Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) sydd wedi’i gofrestru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn. Os byddwch yn gwneud cais o fewn eich 18 mis cyntaf o fasnachu, bydd eich cais yn cael ei wrthod. 

Nid ydych yn gymwys i ailymgeisio am y cyllid hwn os ydych wedi cael eich gwrthod yn ystod y 6 mis diwethaf (o ddyddiad y gwrthod).

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais ar-lein trwy ein Hwb Grantiau.

Peidiwch â gwneud cais os yw’ch incwm dros £100,000. Nid yw 20% o’r ceisiadau a dderbyniwyd yn gymwys oherwydd y lefel incwm. Os yw’ch incwm dros £100,000, bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Os dyfernir grant aml-flwyddyn, rhaid gwario’r flwyddyn gyntaf o grant o fewn blwyddyn i dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Mae angen i fuddiolwyr grŵp fyw yng Nghymru.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.
A photo of young people from LAB 7 on stage singing.

Trawsnewid bywydau ifanc

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Cymunedol Liverpool Bay CCS Cyfyngedig

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies – Unigolion

Ceredigion a Sir Gar

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion

Canolbarth a Gorllewin Cymru, I gyd a Sir Penfro