Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd
Casnewydd,
Applications for this grant are open
Cliciwch y botwm isod i wylio ein fideos cam-wrth-gam, cael mynediad at ganllawiau, a darllen ein Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu i wneud cais drwy ein Hwb Grantiau.
Mae Cronfa Waddol Cymunedol Casnewydd, sydd yn cael ei reoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad
Cymunedol Cymru, yn ymabrel o gronfeydd sy’n ymroddedig i wella addysgu a chryfhau cymunedau ledled Sir Casnewydd, sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos yr effeithiau cadarnhaol y byddant yn eu cael ar y bobl sy’n byw yn y gymunedau hyn a sut maent yn cwrdd ag amcanion y rhaglen a restrir isod. Sef, annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes gan gynnwys blynyddoedd cynnar, ac i wella iechyd a lles i gryfhau perthnasoedd ac adeiladu cydlyniant cymunedol.
Rhaid i’r prosiect gyrraed o leiaf un o’r themau canlynol:
- prosiectau sy’n cefnogi rhieni ifanc
- prosiectau sy’n cefnogi datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar
- prosiectau ysgol sy’n cefnogi datblygiad plant gan gynnwys iechyd a byw’n iach
- prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu drwy oes
- prosiectau sy’n hyrwyddo cymunedau cynhwysol a saff
- prosiectau ieuenctid i annog gwelliant iechyd a lles
- prosiectau sy’n lleihau unigrwydd hen bob
Grantiau ar gael
Nod allweddol y gronfa yw annog a chefnogi addysg a gweithgaredd cymunedol ar lawr gwlad yng Nghasnewydd. Gellir ymgeisio am grant o £200 – £2,000 y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau, mân wariant cyfalaf, neu tuag at gostau craidd.
Pwy all wneud cais?
- Grwpiau yn y gymuned ac a reolir yn lleol sy’n annog gwirfoddolwyr, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, neu ysgolion ar gyfer prosiectau/mentrau a ddaw y tu allan i ddarpariaeth statudol (ee clybiau ar ôl ysgol neu glybiau brecwast, prosiectau garddio, ac yn y blaen).
- Sylwer: Os ydych chi’n Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) sydd wedi’i gofrestru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn. Os byddwch yn gwneud cais o fewn eich 18 mis cyntaf o fasnachu, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
How to apply?
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.
Cofiwch:
- ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein
- llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
- nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
- rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
- rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion
cymorth ychwanegol
Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.
Apply now
Meini prawf cyllid Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd
Find out moreGwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Mae’r gronfa hon bellach ar gau. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am pryd y bydd y gronfa yn ailagor.
Cliciwch yma

