Cronfeydd Wrecsam – Unigolion

I gyd, and Wrecsam

Applications for this grant are closed

Bydd y gronfa hon yn ailagor ddydd Llun 23 Mehefin (yn amodol ar newid). Cofrestrwch i'n cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol.

Cofrestrwch in Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Cronfa Gwaddol Cymunedol Wrecsam

Mae Cronfa Waddol Gymunedol Wrecsam yn ymbarél o Gronfeydd a rhoddion sy’n ymroddedig i wella addysg a chryfhau cymunedau yn Wrecsam.

Prif amcan y Gronfa yw annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar.

Dylai ceisiadau fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:

  • Prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
  • Prosiectau cynhwysiant addysg gyda chefnogaeth i fyfyrwyr unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, gwobrau am gyrhaeddiad a deunyddiau addysgol neu adnoddau eraill

Grantiau ar gael

Gall unigolion wneud cais am grant blynyddol hyd at £500.

Pwy all wneud cais?

Mae myfyrwyr rhwng 11 a 25 oed sydd ar hyn o bryd yn byw yn llawn amser yn nhref Dinbych ac ardaloedd Cyngor Cymuned Nantglyn, Henllan, Bodfari, Aberwheeler, Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, Llanynys, Llanefydd a Llansannan, ar yr amod nad yw’r cais i gwmpasu gweithgaredd sy’n dod o fewn darpariaeth statudol.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth gan y Gronfa hon o’r blaen.

 

How to apply?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Make sure you're eligible

Please read the following text to ensure your eligibility before beginning your application:

Continue

Grants

View all

Cynnal Endowment Fund – Groups

All, Gwynedd, Isle of Anglesey and North Wales

Principality Building Society Retrofit for the Future Fund

All, Blaenau Gwent, Bridgend

North East Wales Science Fund – Individuals

All, Conwy, Denbighshire

Cynnal Endowment Fund – Individuals

All, Gwynedd, Isle of Anglesey and North Wales