Cynnig llwyfan i bobl ifanc
“Fedra i ddim credu beth mae fy mhlant wedi’i gyflawni ar ôl treulio wythnos yn y gweithdy hwn! Maen nhw wedi dysgu cymaint o sgiliau, ac nid am theatr a creadigrwydd yn unig ond sgiliau bywyd a fydd yn gefn iddyn nhw yn eu dyfodol. Maen nhw wedi trechu rhwystrau ac wedi dangos fod gwneud rhywbeth hollol ddiarth yn gallu gwella’u gwydnwch a’u hunan hyder.”
Mae Gweithdy Dinbych, elusen celfyddydau cymunedol, yn defnyddio theatr i godi hyder a datblygu pobl ifanc.
Gyda grant o £8,500 gan Gronfa Plant a Phobl Ifanc, cynhaliwyd ysgol haf bum diwrnod yn rhad ac am ddim i bobl ifanc difreintiedig yn byw yn Ninbych a’r ardaloedd cyfagos.
Roedd plant o bob cefndir yn yr ysgol haf, llawer heb unrhyw brofiad o berfformio. Roedden nhw’n cymryd rhan mewn gweithdai creadigol mewn actio, barddoniaeth, ysgrifennu a chanu gyda pherfformiad am ddim i deuluoedd a ffrindiau yn benllanw’r wythnos.
Ddechrau’r wythnos, roedd llawer o’r plant yn teimlo’n ansicr a fydden nhw’n gallu perfformio ar y diwedd. Ond, wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, tyfodd hyder y plant a llwyddodd pob un gymryd rhan yn y sioe.
Mae rhieni wrth eu bodd bod hyder eu plant wedi cynyddu cymaint.
Roedd un ferch ifanc a oedd yno yn brwydro yn erbyn pryder ac yn ei chael hi’n anodd i wneud ffrindiau, ond meddai ei mam:
”Mae fy merch wrth ei bodd yno. Mae’n dod gartref wedi gwirioni ar ba sgiliau mae hi wedi’u dysgu a’r ffrindiau newydd mae hi wedi’u gwneud”.
Stories
Sometimes the Smallest Grants Leave the Biggest Legacy
When people think about charitable giving, it's easy to assume that creating meaningful change requires significant amounts of money, and of course in some cases it does. But sometimes, the biggest differences begin with the smallest investments.
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.