Sefydliad Cymunedol Cymru yn ennill statws Cynnig Cymraeg
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi cael ei gydnabod yn swyddogol am ei ymroddiad i hyrwyddo’r Gymraeg drwy sicrhau cymeradwyaeth Cynnig Cymraeg.
Mae’r gydnabyddiaeth hon, a ddyfarnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn tynnu sylw at sefydliadau sy’n cydweithio â thîm y Comisiynydd i ddatblygu a gweithredu darpariaethau Cymraeg.
Ers dros 25 mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda chyllid i gryfhau cymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda’u cefnogwyr hael, maent yn cyrraedd y bobl fwyaf anghenus ac yn helpu i greu newid cadarnhaol yng nghymunedau Cymru.
Fel rhan o’i ymrwymiad i ddwyieithrwydd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn darparu cymorth Cymraeg a Saesneg i roddwyr a grantïon fel ei gilydd, gan gynnig cylchlythyrau dwyieithog, pecyn cymorth dwyieithog cynhwysfawr, a mynd ati i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar ei gwaith.
Mae cymeradwyaeth Cynnig Cymraeg yn sail i ymdrechion parhaus Sefydliad Cymunedol Cymru i ddathlu ac integreiddio’r Gymraeg yn ei chenhadaeth i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:
“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru hanes cryf o gynnig cefnogaeth i elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru ac mae’n cydnabod yr angen a’r gwerth o allu gwneud hynny’n ddwyieithog.
Wrth longyfarch Sefydliad Cymunedol Cymru ar ei lwyddiant, byddwn yn annog pobl i fanteisio ar yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig ac annog sefydliadau tebyg eraill i weithio gyda ni i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau Cymraeg.”
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Mae’n anrhydedd i ni dderbyn cymeradwyaeth Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg drwy ei gwneud yn rhan naturiol ac annatod o bob agwedd ar ein gwaith, o’r gwasanaethau a ddarparwn i’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n cymunedau.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ond hefyd y manteision o weithio’n ddwyieithog, a pha mor bwysig yw hyn i’n cefnogwyr a’n partneriaid gwerthfawr ledled Cymru.”