Sefydliad Cymunedol Cymru’n ymuno â’r Cynllun Arianwyr Cyflog Byw newydd

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth fel Ariannwr Cyflog Byw yn y DU gan y Living Wage Foundation.

Fel rhan o’i ymrwymiad i fod yn Ariannwr Cyflog Byw, mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n cefnogi elusennau sy’n ymrwymo i dalu Cyflog Byw i staff ar ôl llwyddo i ennill grant.

Mae Arianwyr Cyflog Byw eu hunain yn Gyflogwyr Cyflog Byw ac yna, ble bynnag bo’n bosibl, maen nhw’n annog derbynwyr grantiau i ddod yn gyflogwyr achrededig yn y man.

Mae Arianwyr Cyflog Byw yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared ar gyflogau isel yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol.

Er bod miloedd o elusennau ac arianwyr eisoes wedi cofleidio Cyflog Byw ar draws y DU, mae cyflogau isel yn aros yn broblem enfawr ar draws y sector. Mae’r cynllun Ariannwr Cyflog Byw yn cael ei ariannu gan People’s Health Trust ac wedi’i ddatblygu ar y cyd gan lawer o wahanol arianwyr gan gynnwys Trust for London, Barrow Cadbury, y Joseph Rowntree Foundation a Comic Relief.

Yr isafswm cyflog ar gyfer rhai 25 oed a throsodd yn y DU ar hyn o bryd yw £8.72 yr awr, ond mae’r Cyflog Byw, cyfradd wirfoddol sy’n cael ei gosod yn annibynnol ac sy’n cael ei gyfrifo yn unol â chostau byw sylfaenol yn y DU, yn sylweddol uwch ar £9.50, gan godi i £10.85 yn Llundain.

Meddai Laura Gardiner, Cyfarwyddwr, y Living Wage Foundation:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cydnabod Sefydliad Cymunedol Cymru fel Ariannwr Cyflog Byw. Mae’r fath arweinyddiaeth yn dangos ymrwymiad i daclo’r problemau difrifol sy’n codi yn ein cymunedau oherwydd cyflogau isel.

“Mae llawer o sefydliadau yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol yn gweithio’n galed i daclo anghyfiawnder cymdeithasol a thlodi ac felly, mae ond yn iawn fod y rhai sydd wedi ymrwymo i’r swyddi hynny yn derbyn, o leiaf, Gyflog Byw. Rydyn ni’n gobeithio gweld llawer mwy o arianwyr a chwmnïau’n dilyn arweiniad Sefydliad Cymunedol Cymru ac Arianwyr Cyflog Byw eraill.

“Ar adeg pan mae hanner y rhai mewn tlodi’n byw mewn cartrefi ble mae gan rywun swydd, mae teuluoedd ledled y DU wirioneddol angen Cyflog Byw. Mae’r Cyflog Byw yn gyfrifiad cadarn sy’n adlewyrchu’r costau byw heddiw, yn gwobrwyo diwrnod caled o waith gyda chyflog teg am y diwrnod hwnnw.”

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydyn ni’n yn credu ei bod hi’n bwysicach nawr nag erioed o’r blaen ein bod ni’n sicrhau fod y sefydliadau rydym yn eu hariannu’n talu Cyflog Byw i’w holl weithwyr yn hytrach na’r isafswm cyflog. Mae’r Cyflog Byw yn rhoi cymaint o hwb i’r economi ac fe wyddom y bydd yn arwain at well iechyd a llesiant ac at gymunedau cryfach.

“Hynny sydd wedi gyrru’n penderfyniad ac rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein bod ni, erbyn hyn, yn Ariannwr Cyflog Byw.

Meddai John Hume, Prif Weithredwr, People’s Health Trust:

“Mae’r People’s Health Trust yn falch o groesawu Sefydliad Cymunedol Cymru fel yr ariannwr elusennau diweddaraf i ymuno â rhwydwaith Ariannwr Cyflog Byw. Drwy ddod yn rhan o’r cynllun hwn, sy’n tyfu’n gyflym iawn, mae wedi dangos ymrwymiad, fel ariannwr, i weithio i gael gwared ar gyflogau isel yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol.

“Rydym eisiau gweld y Cyflog Byw yn dod yn norm, ac rydyn ni o’r farn fod sefydliadau ariannu yn gallu arwain y ffordd i wireddu hyn yn y sector gwirfoddol.”

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…