Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru
Mae stori Shakespeare Link yn cynnig enghraifft ggwych o sut y gall cydweithio rhwng cyllidwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid lleol greu effaith ystyrlon a pharhaol.

Cymuned wrth galon creadigrwydd
Wedi’i leoli yn y theatr awyr agored, Willow Globe, mae Shakespeare Link yn grŵp theatr sydd wedi’i wreiddio yn ei gymuned leol. Trwy raglenni cynhwysol, maent yn darparu cyfleoedd i bobl o bob oedran, cefndir a gallu i ymgysylltu â’r celfyddydau.
Y tu hwnt i’w gweithgareddau rheolaidd, mae’r grŵp yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod â phobl ynghyd, gan gydweithio â sefydliadau eraill ar draws canolbarth Cymru i gryfhau cysylltiadau cymunedol ac ehangu mynediad at brofiadau creadigol.
Troi cyllid i mewn i effaith
Gyda chefnogaeth Ashley Family Foundation, llwyddodd Shakespeare Link i gynnal gŵyl natur a chelf undydd i ddathlu heuldro’r haf. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Fferm Wilder Pentwyn ar y cyd â Radnorshire Wildlife Trust, gan ddod â chreadigrwydd, natur ac ysbryd cymunedol ynghyd.
Drwy gydol y dydd, cymerodd ymwelwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau celf a natur, gan arwain at berfformiad o A Midsummer Night’s Dream. Croesawodd y digwyddiad dros 100 o bobl (y gynulleidfa fwyaf erioed ar y safle) gan ddangos y galw am brofiadau diwylliannol hygyrch dan arweiniad y gymuned.
Pam mae partneriaethau’n bwysig
Mae’r prosiect hwn yn dangos gwerth partneriaeth ar bob lefel. Gall grwpiau cymunedol sy’n cydweithio ddarparu profiadau cyfoethocach a mwy cynhwysol. Ar yr un pryd, gall cyllidwyr ehangu eu cyrhaeddiad a sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n effeithiol i’r mannau lle mae’r angen fwyaf.
Trwy ein model partneriaeth, rydym yn gweithio gyda sefydliadau fel Ashley Family Foundation i reoli a hyrwyddo cronfeydd, cynnal diwydrwydd dyladwy, a chefnogi dosbarthu grantiau – gan alluogi cyllidwyr i aros yn agos at yr achosion sy’n bwysig iddynt.
Beth mae hyn yn ei olygu i roddwyr a grwpiau cymunedol
I roddwyr, mae hwn yn enghraifft glir o sut y gellir troi cyllid yn effaith leol diriaethol, gan gefnogi mentrau sy’n dod â phobl ynghyd, yn meithrin creadigrwydd ac yn cryfhau cymunedau.
I grwpiau cymunedol, mae’n tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy gyllid partneriaeth, a’r potensial i gydweithio ag eraill i wireddu prosiectau uchelgeisiol ac ystyrlon.
Cymryd rhan
P’un a’i os ydych yn awyddus i ariannu prosiectau sy’n bwysig i chi, neu’n chwilio am gefnogaeth ar gyfer eich menter gymunedol, rydym yma i helpu.
Iddarllenmwy am gyfleoedd cyllido, ewch i’n tudalen grantiau:
https://communityfoundationwales.org.uk/grants-overview/
Iddysgumwy am weithio gyda ni fel rhoddwr, cyfaill neu bartner, ewch i:
https://communityfoundationwales.org.uk/giving/