Wyn Davies

Ymddiriedolwr

Wyn Davies

Fy nghefndir

Ar ôl cael fy ngeni yn Aberdâr, bu fy nheulu’n symud o gwmpas De Cymru nes inni ymgartrefu yn Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Symudais i Lundain yn 1971 i astudio meddygaeth yn Ysgol Feddygol Westminster, ac yn ddiweddarach bûm yn gweithio fel cardiolegydd ymgynghorol yn ysbytai St Mary’s a Hammersmith. Roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar anhwylderau trydanol y galon sy’n gallu achosi problemau rhythm y galon. Ymddeolais o fyd meddygaeth yn 2022.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Rydw i’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru, ac rwyf hefyd yn aelod o’r Pwyllgorau Cynllunio a Grantiau.

Holwch fi ynghylch...

Yr effaith bwysig mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ei chael ledled Cymru drwy helpu pobl leol i fynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig yn eu cymunedau eu hunain, gan greu newid cadarnhaol sy’n para.

Pam rwy'n caru Cymru

Cefais fy ngeni yng Nghymru. Cymraeg oedd yr iaith gyntaf nes i’w chlywed, a’r iaith gyntaf nes i geisio ei siarad (fwy neu lai!). Roedd Llundain yn lle gwych i adeiladu gyrfa, ond pan es i angladd fy nhad yng Nghaerdydd a chwrdd â phobl oedd yn rhan o’m mywyd pan oeddwn i’n blentyn, fe sylweddolais pa mor ddwfn yw fy nghysylltiad â Chymru. Dyma ble mae fy ngwreiddiau, a dyma fy nghartref.

Trustees

View all
Neil Moss

Neil Moss

Trustee

Judi Rhys MBE

Judi Rhys MBE

Chair

Andrew Tuggey CBE DL

Andrew Tuggey CBE DL

Trustee

Annabel Lloyd

Annabel Lloyd

Trustee