Cronfa newydd i gefnogi cymunedau ledled Sir y Fflint

Cronfa newydd i gefnogi cymunedau ledled Sir y Fflint

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn partneru â Liverpool Bay CCS Limited a Cheshire Community Foundation i lansio cronfa newydd a fydd yn buddsoddi mewn prosiectau cymunedol ledled Sir y Fflint a chymunedau cyfagos yn Sir Gaer.

Bydd Cronfa Cymunedol Liverpool Bay CCS Limited yn darparu grantiau o hyd at £20,000 i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau dielw eraill sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu hardaloedd lleol. Mae’r gronfa’n rhan o raglen fuddsoddi gychwynnol bedair blynedd sydd wedi’i chynllunio i greu buddion parhaol i’r cymunedau sy’n gysylltiedig â seilwaith Cludo a Storio (T&S) Carbon Deuocsid (CO₂) Liverpool Bay CCS.

Bydd Sefydliad Cymunedol Cymru a Cheshire Community Foundation yn gweinyddu’r cyllid yn eu hardaloedd priodol, gan sicrhau bod gwybodaeth leol ac arbenigedd cymunedol yn helpu i gyfeirio’r buddsoddiad at y mannau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Bydd cyllid ar gael i brosiectau sy’n ehangu cyfleoedd dysgu, yn gwella ac yn diogelu’r amgylchedd naturiol, ac yn dathlu treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth cymunedau lleol.

Mae’r gronfa hon yn gyfle i fuddsoddi yn y syniadau, yr egni a’r ymrwymiad sydd eisoes yn bodoli yng nghymunedau Sir y Fflint. Drwy gefnogi sefydliadau sy’n adnabod eu hardaloedd lleol orau, nod y rhaglen yw helpu cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau, ymateb i heriau lleol a chreu buddion parhaol i genedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Katy Hales, Cyfarwyddwr Haelioni Sefydliad Cymunedol Cymru: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda Liverpool Bay CCS Limited ar y rhaglen fuddsoddi newydd hon ar gyfer cymunedau Sir y Fflint. Drwy ein gwaith gyda rhoddwyr a chyllidwyr, rydyn ni’n gweld bob dydd y gwahaniaeth y gall buddsoddiad hirdymor, sydd wedi’i dargedu, ei wneud pan fydd yn cael ei lywio gan wybodaeth leol ac anghenion cymunedau.

“Mae’r gronfa hon yn gyfle i gefnogi sefydliadau sydd â chysylltiadau dwfn â’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt ac sy’n creu newid cadarnhaol i bobl leol. Edrychwn ymlaen at helpu i gyfeirio cyllid at brosiectau a fydd yn gadael effaith barhaol ledled Sir y Fflint.”

Dywedodd Stefano Rovelli, Rheolwr Gyfarwyddwr Liverpool Bay CCS Limited: “Mae lansio Cronfa Cymunedol Liverpool Bay CCS yn gam pwysig ymlaen i’n prosiect Cludo a Storio. Rydyn ni’n deall pwysigrwydd creu buddion ystyrlon a pharhaol i’r cymunedau lle rydyn ni’n gweithredu, ac mae’r gronfa hon yn dangos ein hymrwymiad i’r rhanbarth. Wrth i Liverpool Bay symud ymlaen drwy’r cam adeiladu, rydyn ni’n falch o allu parhau i gefnogi ein cymunedau lleol ac edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw ar brosiectau a fydd yn sicrhau gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd hirdymor.”

Agorodd y rownd gyntaf o gyllid am 12pm ddydd Mercher 9 Medi 2026. Mae manylion llawn, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd a chanllawiau ymgeisio, ar gael ar dudalen y gronfa yma.

Ar gyfer prosiectau yn Sir Gaer, ewch i wefan Cheshire Community Foundation i ddysgu mwy am y cyllid sydd ar gael yn yr ardaloedd cymwys.

News

View all
Tiny Rebel expands its community impact across Wales

Tiny Rebel expands its community impact across Wales

Funding awarded to 13 community groups across Gwent to support young people

Funding awarded to 13 community groups across Gwent to support young people

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities