Dathlu penblwydd arbennig… a partneriaeth

Flwyddyn ddiwethaf, fe gyhoeddom ni yn Sefydliad Cymunedol Cymru ein hadroddiad Ymdopi gyda Covid-19 yn olrhain sut i ni ddyrannu miliynau o bunnoedd i gynorthwyo elusennau bach a mawr i leddfu sgil-effeithiau pandemig Covid-19 ar gymunedau Cymru.

Rhanwyd dros £5.5m o grantiau rhwng mwy na 1,000 o grwpiau ar hyd a lled Cymru.

Roedd Cylchoedd Meithrin – darparwyr gofal plant ac addysg gynnar yn y Gymraeg – ymhlith rhai o’r elusennau gafodd fudd o’r gronfa.

Yr wythnos hon (o Fedi 13 i 17), mae Mudiad Meithrin yn cynnal ymgyrch i dathlu gwaith aelodau’r pwyllgorau rheoli gwirfoddol sy’n rhedeg Cylchoedd Meithrin, rhannu arfer da ac annog eraill i ymuno â nhw yn eu gwaith, a dweud diolch.

Dros hanner can mlynedd, mae Mudiad Meithrin wedi tyfu i fod yn sefydliad ymbarél a rhwydwaith cenedlaethol gan hwyluso gwasanaethau hwyliog i blant a’u teuluoedd trwy’r Gymraeg – o grwpiau rhieni a babanod anffurfiol i Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.

Er mwyn gwneud hyn, maent yn dibynnu ar rwydwaith cenedlaethol – miloedd o bobl – sy’n gwirfoddoli ar y pwyllgor rheoli gwirfoddol yn eu Cylch Meithrin lleol. Maen nhw’n cymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar fusnes Cylch Meithrin gan gynnwys cyflogaeth, iechyd a diogelwch a diogelu. Heb eu gwaith nhw, byddai’n amhosibl i’r Mudiad wneud eu gwaith yn effeithiol.

Does dim angen i unigolyn fod yn rhiant i fod yn aelod o bwyllgor ar Gylch Meithrin lleol – mae croeso i bawb. Mae mwy o wybodaeth yma.

Fel ariannwyr elusennol sy’n credu yn gryf mewn partneriaeth rydym ni yn Sefydliad Cymunedol Cymru yn cydweithio’n agos gyda Mudiad Meithrin ac yn falch o allu cefnogi’r ymdrechion i wneud gwahaniaeth a chreu mwy o siaradwyr Cymraeg ar draws cymunedau Cymru.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…