Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro
Bro Morgannwg, Dinas Caerdydd, a I gyd
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Mae ceisiadau ar agor i grwpiau YN UNIG. Bydd ceisiadau ar gyfer unigolion yn agor ym mis Mehefin 2024.
Mae'r gronfa hon yn cau ar 17 Mehefin 2024 am 12pm (canolddydd).
Nod Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro yw cefnogi’r canlynol:
- prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant o’r blynyddoedd cynnar i 18 oed
- prosiectau allgyrsiol yn yr ysgol sy’n cefnogi materion iechyd a byw’n iach
Grantiau ar gael
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £2,000 y flwyddyn am hyd at tri blynedd
Pwy all wneud cais?
- Ysgolion yn ardaloedd Awdurdod Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhedeg prosiectau i hyrwyddo addysg sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol. (E.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ac ati)
- Elusennau a grwpiau dielw sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion yn yr Awdurdod Lleol yn cefnogi plant a phobl ifanc gyda phrosiectau/gweithgareddau y tu hwnt i ddarpariaeth y Cwricwlwm
Cenedlaethol.
N.B. Enghraifft o brosiect a fyddai’n cyd-fynd â’r meini prawf: Grŵp dawns ieuenctid sydd eisiau mynd i ysgolion yn ardal yr awdurdod lleol i gyflwyno sesiynau blasu gyda phobl ifanc.
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.
Cofiwch:
- ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein
- llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
- nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
- rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
- rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion
cymorth ychwanegol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cliciwch ymaNi faswn wedi gallu fforddio cost y cwrs dawns… ond mi orffenais efo’r radd uchaf erioed
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: