Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Powys

I gyd, a Powys

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

 

Cronfa Ymddiriedolaeth Elusennol sy’n cael ei gweinyddu gan Sefydliad Cymunedol Cymru yw Cronfa Deddf Eglwys Gymraeg Powys. Mae Cronfa yr Ymddiriedolaeth yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf yr Eglwys Gymraeg 1914. Mae’r gronfa yn cefnogi:

  • Prosiectau sy’n cyfrannu at adnewyddu a chynnal eglwysi, capeli a neuaddau cymunedol/pentref yn y sir.
  • Diogelu adeiladau hanesyddol
  • Prosiectau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anfantais er budd trigolion Powys
  • Prosiectau sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i drigolion Powys
  • Prosiectau sy’n annog y celfyddydau

Grantiau ar gael

  • Gall elusennau wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £5,000. Lle y ceir achos eithriadol ar gyfer cymorth, gellir dyfarnu grantiau o hyd at £10,000.

Gellir dyfarnu grantiau cyfalaf er mwyn helpu sefydliadau gyda’r gwaith o brynu celfi ar gyfer adeiladau a’u cynnal a’u cadw.

Pwy all wneud cais?

  • Eglwysi a sefydliadau dielw sy’n gweithio gyda thrigolion ardal Awdurdod Lleol Powys.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein
  • llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion
    cymorth ychwanegol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Powys
Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Powys

Roeddwn yn teimlo’n ddiogel yn gwybod ei bod hi yma i ni

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Casnewydd, De Cymru a I gyd

Cronfa’r Teulu Brown

Caerdydd, De Cymru a I gyd

Cronfeydd Sir y Fflint – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfeydd Wrecsam – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Wrecsam