Cronfa Griced Pobl Ifanc

     

Gweledigaeth Cronfa Criced yng Nghymru yw:

Defnyddio criced i drawsnewid bywydau pobl naill ai yn y gymuned neu wrth wireddu eu potensial fel chwaraewyr criced yn y dyfodol.

Amcanion y Gronfa yw:

Hyrwyddo chwaraeon amatur criced yng Nghymru, yn enwedig ond nid o reidrwydd yn gyfan gwbl drwy:

  • darparu cyfleoedd chwarae pleserus, strwythuredig a chystadleuol o fewn criced hamdden;
  • creu llwybrau teg a chynhwysol i griced ledled Cymru gan alluogi pawb i chwarae ar y lefel y maent ei eisiau;
  • adeiladu rhwydwaith rhanbarthol cryf o hyfforddwyr, swyddogion, tirmon a chyfleusterau cynaliadwy ar gyfer y gamp.

Hyrwyddo cyfranogiad cymunedol mewn hamdden iach yng Nghymru, yn enwedig drwy ddarparu a chynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ar gyfer trefnu chwarae criced a chwaraeon a gemau eraill mewn ffordd sy’n gallu darparu manteision iechyd a gwella bywydau unigolion a chymunedau.

Hyrwyddo addysg plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy ddulliau sy’n elusennol yn unig ac er budd y cyhoedd.

Etifeddiaeth i griced yng Nghymru

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys i ‘Gronfa’ Sefydliad Criced Cymru yn ffordd arbennig iawn o drawsnewid bywydau pobl trwy griced am genedlaethau i ddod.

Darllen mwy
Cronfa Criced yng Nghymru