Ceri Thomas
Swyddog Grantiau
Fy nghefndir
Fe ymunais i â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Awst 2021. Rwyf wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector ers dros 10 mlynedd, yn cefnogi mentrau cymdeithasol a sefydliadu aelodaeth. Cyn hynny, roeddwn yn gweithio yn y sector ymchwil addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae gen i wybodaeth dda o natur amrywiol y trydydd sector yng Nghymru a’r cyfleoedd a’r anawsterau y gallai grwpiau eu hwynebu.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n Swyddog Grantiau, yn aelod o Dîm Grantiau’r Sefydliad. Y tîm Grantiau sy’n gyfrifol am redeg y rhaglenni grantiau ac sy’n rhannu mwy na £2 filiwn mewn grantiau bob blwyddyn i brosiectau ac elusennau yng Nghymru.
Holwch fi ynghylch...
Ceisiadau newydd am grant neu ynghylch eich grantiau presennol a sut y gallwn ni eich cefnogi gyda’r ddau.
Pam rwy’n caru Cymru
Cefais fy ngeni, ac rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m hoes yng Nghymru; mae’r amser rwyf wedi treulio i ffwrdd dros y blynyddoedd wedi gwneud i mi werthfawrogi’r cyfan sydd ganddi i’w gynnig. Rwyf wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o fôr, mynydd, tref a dinas ar fy stepen drws.