Adeiladu cysylltiadau, rhannu gwybodaeth a chreu cyfleoedd

Spotlight yw ein menter rwydweithio a dysgu, gan ddod â menywod ynghyd o’r sectorau busnes, cynghori proffesiynol ac elusennol.

Drwy raglen amrywiol o ddigwyddiadau rhwydweithio, siaradwyr gwadd a chyfleoedd datblygiad proffesiynol, mae Spotlight yn creu lle i feithrin perthnasoedd ystyrlon, cyfnewid syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae’r pynciau’n amrywio o fusnes ac arweinyddiaeth i lesiant, ymarfer proffesiynol a haelioni, gan adlewyrchu diddordebau a phrofiadau amrywiol ein rhwydwaith.

P’un a ydych yn awyddus i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol, cael mewnwelediadau newydd neu gysylltu â menywod o’r un anian, mae Spotlight yn cynnig amgylchedd croesawgar i rannu gwybodaeth, archwilio safbwyntiau newydd a datblygu cysylltiadau gwerthfawr.

Fel rhan o Sefydliad Cymunedol Cymru, mae Spotlight hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu mwy am haelioni a rhoi elusennol, gan helpu aelodau ein rhwydwaith i ddeall yn well sut y gallant gefnogi cleientiaid, busnesau ac unigolion i wireddu eu huchelgeisiau elusennol.

Pam mynychu?

  • Ehangu eich rhwydwaith proffesiynol
  • Cysylltu â menywod o amrywiaeth o sectorau a chefndiroedd
  • Dysgu gan siaradwyr arbenigol a chyfranwyr gwadd
  • Cael mynediad at gyfleoedd rhwydweithio a datblygiad proffesiynol
  • Rhannu gwybodaeth, syniadau a phrofiadauArchwilio haelioni a rhoi elusennol yng Nghymru

 

Digwyddiadau i ddod

Rhwydweithio Spotlight

Dydd Iau 22 Hydref 2026
12pm – 1:30pm
NatWest Accelerator Hub, 1 Kingsway, Caerdydd

Ymunwch â ni am sesiwn rwydweithio hamddenol dros ginio, wedi’i chynllunio i ddod â phobl ynghyd, sbarduno sgyrsiau newydd a chreu cysylltiadau gwerthfawr.

Archebwch eich lle am ddim drwy Eventbrite.

Cysylltwch â Katy

Cysylltwch â Katy os oes gennych unrhyw gwestiynau am haelioni neu Spotlight!

Enw