Partneru am effaith leol

Fel arbenigwyr yn anghenion eu cymunedau lleol, a thrwy eu perthynas a’u rhwydweithiau â sefydliadau llawr gwlad yn eu hardaloedd, sylfeini cymunedol sydd yn y sefyllfa orau i gyfeirio arian at y rhai sydd ei angen fwyaf.

Yn ddiweddar, ymunom â Cheshire Community Foundation i helpu mwy o grwpiau o Gymru i gael cefnogaeth o Gronfa Gymunedol Assura.

Mae ein partneriaeth gyda Sefydliad Cymunedol Sir Gaer yn enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth sicrhau’r effaith leol fwyaf posibl heb orfod dechrau o’r dechrau a dyblygu ymdrechion mewn ardal anghyfarwydd.

Gyda dim ond pum cais o Gymru’r llynedd, buom yn gweithio gyda Sefydliad Cymunedol Sir Caer i sicrhau y gallai cymunedau ledled Cymru gael mynediad at y gefnogaeth a gynigir gan Gronfa Gymunedol Assura.

Fe wnaethon ni hyrwyddo Cronfa Gymunedol Assura ar draws ein sianeli digidol a chynnal yr asesiadau o geisiadau. Roedd llawer o’r ymgeiswyr yn hysbys i Sefydliad Cymunedol Cymru felly roeddem yn deall cyd-destun eu ceisiadau ac yn gallu darparu gwybodaeth ychwanegol a oedd yn arbennig o ddefnyddiol pan ddaeth i’r panel grantiau.

O ganlyniad i’n partneriaeth, derbyniodd y Gronfa Gymunedol Assura 44 cais o Gymru ac ennill 22 o grantiau gwerth ychydig o dan £100,000.

Dywedodd Angela Richardson, Ymgynghorydd Grantiau yn Sefydliad Cymunedol Sir Gaer:

“Gwnaeth Sefydliad Cymunedol Cymru waith gwych o hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth, ac asesu ceisiadau ar gyfer Grantiau Assura i Gymru, a gyflwynwyd ar amser ac i safon uchel iawn.

Roedd y Panel wir yn gwerthfawrogi mewnbwn y tîm grantiau yn y panel, gan ddarparu pwyntiau o eglurhad a chyd-destun daearyddol a thematig cefndirol sydd bob amser mor ddefnyddiol wrth orfod gwneud rhai dewisiadau anodd ar ba brosiectau i’w hariannu.

Does dim dwywaith bod gweithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru wedi codi ymwybyddiaeth o Gronfa Gymunedol Assura yng Nghymru yn sylweddol.”

I gael help a chefnogaeth gyda chyllid grant, cliciwch yma.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…