Edrych yn ôl ar flwyddyn arall o wrando ac ymateb i anghenion grwpiau ac elusennau cymunedol yng Nghymru

Caiff ein gwaith yn Sefydliad Cymunedol Cymru ei arwain a’i siapio gan anghenion grwpiau ac elusennau cymunedol yng Nghymru.

Dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gwrando ac ymateb i’r argyfwng Costau-Byw a’r heriau sy’n wynebu grwpiau wrth gadw eu pennau uwch y dŵr tra hefyd yn ateb y galw cynyddol am eu gwasanaethau.

Rydym newydd gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol, yn adrodd hanes 2021/22 o’n safbwynt ni. Er bod y dogfennau hyn weithiau’n gallu bod yn eithaf ‘sych’ ac ystadegol, rydym wedi defnyddio’r cyfle i ddweud ein stori ac annog cefnogaeth i’n gwaith, sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed o’r blaen.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n helaeth ar bartneriaethau – mae’r rhan fwyaf o’r hyn rydyn ni’n ei wneud ond yn bosibl drwy weithio gydag eraill. Partneriaethau gyda rhoddwyr a chyllidwyr. Partneriaethau gyda grwpiau cymunedol. A phartneriaethau gyda’r rhai ry’n ni’n gweithio’n agos gyda nhw yng Nghymru.

Y partneriaethau hynny yw sylfaen ein gwaith, sy’n sail i sut, dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ddarparu £1.92m o grantiau i dros 400 o grwpiau yn Wales. Mae pob un o’r grantiau yma yn helpu i wella bywydau mewn cymunedau lleol ar draws y wlad.

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn hon wedi cynnwys lansio ein Cronfa Croeso Cenedl Noddfa Antur, rhaglen grant newydd i bobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro ac yn cyrraedd Cymru, ein partneriaeth newydd gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality i lansio Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol ac, yn bwysicaf oll efallai, cefnogi tîm gwych Sefydliad Cymunedol Cymru i helpu a chefnogi’r grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw.

Cymerwch olwg ar ein hadroddiad blynyddol a rhannwch eich barn gyda ni. Gwell fyth, cysylltwch os gallwch chi ein helpu i wneud mwy a chryfhau ein gwaith.

Byddai gennyf ddiddordeb mawr hefyd i weld enghreifftiau eraill o sefydliadau yn arloesi eu hadroddiadau blynyddol, gan adrodd straeon pwerus i gysylltu grwpiau â’u cefnogwyr.

Rydym mor falch ein bod wedi cefnogi dros 400 o grwpiau anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ar draws Cymru.

Croeso mawr i chi ddarllen mwy am y bobl rydyn ni wedi eu cefnogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…