Busnesau

A yw eich busnes yn credu’n angerddol mewn atgyfnerthu cymunedau a newid bywydau? A yw eich tîm yn awyddus i greu newid cadarnhaol a chysylltu â’ch cymuned leol?

Fel eich partner elusennol gallwn eich cefnogi, drwy eich helpu i gyflawni’r newidiadau yr hoffech eu gweld yn ein cymdeithas.

Gallwch wneud hyn drwy gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol Cymru drwy gronfa partneriaeth sy’n targedu’r ardaloedd sydd o ddiddordeb i chi, neu drwy gefnogi ein gwaith ehangach ar hyd a lled Cymru.

 

Cefnogi grwpiau cymunedol yng Nghymru

Busnes

Drwy roi drwom ni, byddwch yn helpu i ariannu mwy o brosiectau cymunedol yng Nghymru. Maent yn gwneud gwaith arbennig – fel arfer o fewn cyllideb gyfyngedig – felly byddai ychydig o gymorth ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae’n bwysig nodi ein bod yn deall bod partneriaethau elusennol cymaint mwy na rhoddion elusennol i fusnesau.

Hoffem roi eich timau wrth wraidd eu cymuned er mwyn helpu i greu newid cadarnhaol. Byddwn yn sicrhau bod eich timau yn gweld ac yn clywed am yr effaith y mae eich sefydliad wedi helpu ei chreu yn uniongyrchol, a sut y gallent chwarae rhan fwy yn y gwaith o ddatblygu hyn. Bydd hyn yn creu ymdeimlad o falchder yn eich sefydliad a’r hyn y byddwch yn ei gyflawni, ac yn rhoi cyfle i’ch tîm gefnogi’r gwaith hollbwysig y mae grwpiau cymunedol yn ei wneud ac, yn y pen draw, rhoi yn ôl i’w hardal leol.

Creu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr

Two women smiling at the camera

Gallwn eich helpu i greu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr er mwyn sianelu eich rhoddion i’r materion sy’n bwysig i chi.

Gyda chronfa o dan reolaeth y rhoddwr, rydym yn eich cefnogi chi a’ch timau i lywio rhaglen grant a defnyddio ein rhwydwaith helaeth o grwpiau trydydd parti ar hyd a lled Cymru er mwyn sicrhau bod eich cronfa yn cyrraedd y rhai y mae ei hangen fwyaf arnynt.

Byddwn yn hyrwyddo eich cronfa a sicrhau ymwybyddiaeth uchel ymhlith y gymuned leol a monitro effaith eich cymorth yn rheolaidd, fel y gallwn helpu i lywio eich penderfyniadau rhoi yn y dyfodol. Gallwn ei gwneud yn hawdd i chi wneud gwahaniaeth enfawr.

Eisiau gwybod mwy?

Galwch Katy Hales, Rheolwr, Rhodd dan Reolaeth Unigolion ar 02920 379580 neu drwy lenwi y ffurflen islaw