Cwrdd â’n Ffrind… Annwen Jones
Cyfweliad gydag Annwen Jones am pam y penderfynodd ddod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru.
Sut y cawsoch wybod am Sefydliad Cymunedol Cymru?
Deuthum yn ymwybodol o Sefydliad Cymunedol Cymru am y tro cyntaf mewn Cinio Dydd Gŵyl Dewi. Fel prif weithredwr yn y sector elusennol, yr oeddwn yn ymwybodol iawn o waith rhagorol sefydliadau cymunedol i helpu pobl i wneud rhoddion effeithiol er lles eu cymunedau lleol. Fodd bynnag, gan fy mod wedi fy lleoli yn Llundain ers bron i ddeng mlynedd ar hugain, nid oeddwn yn ymwybodol bod gan Gymru ei sefydliad cymunedol ei hun. Roedd yn newydd i mi ar y pryd.
Pam y daethoch chi’n gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru?
Rwy’n angerddol am Gymru, am ein pobl, ein hanes, ein diwylliant, ein hiaith. Er y gallwn fod yn falch iawn o’n cyflawniadau niferus, y realiti yw bod llawer iawn o angen heb ei ddiwallu o hyd a bod anghydraddoldebau sylweddol o ran cyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc.
Deuthum yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru oherwydd bod ganddynt genhadaeth syml ond pwerus i wella bywydau pobl yng Nghymru – maent yn gweithio ledled y wlad – drwy gysylltu’r rhai sydd am roi i’r achosion y maent yn poeni fwyaf amdanynt.
Mae hyn yn hynod werthfawr i bawb gan fod gan Sefydliad Cymunedol Cymru wybodaeth arbenigol am anghenion cymunedau ledled Cymru ac, yn hollbwysig, y profiad o weithio ar lawr gwlad sy’n golygu eu bod mewn sefyllfa dda iawn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol a pharhaol i fywydau pobl. Gwn pa mor bwysig yw’r dull arbenigol a sylfaenol hwn ac mae’n rhywbeth sy’n arbennig o werthfawr i’r rheini ohonom sy’n byw y tu allan i Gymru ar hyn o bryd.
Beth fu uchafbwynt dod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru?
Mae’n ddyddiau cynnar i mi o hyd ond, hyd yn hyn, rwyf wir wedi gwerthfawrogi’r cyfle i addysgu fy hun yn fwy am yr achosion a gefnogir gan Sefydliad Cymunedol Cymru ac i gwrdd â chymaint o bobl o’r un anian ar genhadaeth i sbarduno newid. Mae’n teimlo fel dod adref!
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Gyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru.