Gweithio gydag ymddiriedolwyr elusen
Mae miloedd o ymddiriedolaethau elusennol bach ar hyd a lled Cymru. Cafodd nifer sylweddol o’r rhain eu sefydlu flynyddoedd lawer yn ôl, ac efallai y bydd angen diweddaru eu diben gwreiddiol.
Gall fod yn broblem ddifrifol i ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am gronfa ond na allant gyflawni ei diben elusennol a’u bod hefyd yn ymwybodol y gallai bobl leol fod yn cael cymaint mwy o fudd ohoni.
Dyma ble y gallwn helpu.
Sut y byddwn yn gweithio gyda chi
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae mwy na 3,400 o gronfeydd ymddiriedolaeth yn y DU wedi cael eu trosglwyddo i’w sefydliad cymunedol lleol.
Rydym yn rheolwyr cyllid elusennol arbenigol a gallwn gynghori ar y ffordd orau o drosglwyddo a sicrhau’r defnydd o’r gronfa.
Mae gan ein hymddiriedolwyr y sgiliau a’r profiad i reoli’r gronfa, ei thyfu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra hefyd yn sicrhau ei bod o fudd i gymunedau heddiw.
Rydym bellach yn gweithio gydag ymddiriedolwyr cronfeydd ymddiriedolaeth ymarferol sy’n awyddus i gynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd, er mwyn darparu llywodraethu cryfach a rhoi grantiau mwy effeithiol.
Mae’r Comisiwn Elusennau yn annog pob elusen i ofyn iddi ei hun p’un a ddylai weithio gyda’r Sefydliadau Cymunedol fel dull amgen o weithio, yn enwedig os yw’n gallu ateb yn gadarnhaol i un neu fwy o’r cwestiynau canlynol:
- Rydym yn ei chael hi’n anodd nodi buddiolwyr
- Ni allwn wario incwm yr elusen
- Rydym yn cael ein hun yn rhoi arian i’r un bobl neu grwpiau bob blwyddyn
- Rydym yn ei chael hi’n anodd denu ymddiriedolwyr
- Hoffem fod yn rhan o’r ffordd y caiff yr arian ei wario ond nid ydym am gael y cyfrifoldeb cyfreithiol o fod yn ymddiriedolwr
- Mae’r gwaith o weinyddu’r elusen a’i buddsoddiad yn mynd yn feichus neu’n anghymesur i lefel y cyllid
- Hoffem wybod mwy am y materion a’r cyfleoedd lleol a phwy arall sy’n ariannu beth
Cronfeydd Asiantaethau
Os yw eich elusen yn buddsoddi cyllid elusennol, a oes gennych y sgiliau llywodraethu cywir ar waith er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr enillion gorau?
Cronfeydd Asiantaethau