Lleihau unigedd a chynyddu creadigrwydd yn Wrecsam
Cronfa Deddf Eglwys Cymru Wrecsam (rhan o ymbarél Cronfeydd Wrecsam)
“Y nod oedd creu cyfleoedd i gysylltu ag eraill – lleihau teimladau o unigedd neu allgáu, dysgu sgiliau newydd… a theimlo’n well am fod y tu allan, mewn cysylltiad â natur ac yn yr awyr agored.”
Diolch i gyllid gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru Wrecsam, mae Gweithredu dros Blant yn Wrecsam wedi bod yn darparu sesiynau grŵp creadigol a therapiwtig i blant a phobl ifanc sy’n wynebu anawsterau emosiynol a chymdeithasol.
Yn aml, mae’r plant a’r bobl ifanc a gefnogir gan Gweithredu dros Blant dan lawer o bwysau – cyfrifoldebau fel gofalwyr ifanc, deinameg teuluol heriol, anghenion iechyd meddwl a phryderon sy’n gysylltiedig ag ysgol. Roedd llawer wedi’u hynysu neu’n cael trafferth mynegi eu hunain, gyda mynediad cyfyngedig i leoedd lle gallent deimlo’n ddiogel, cael eu gwerthfawrogi, a’u clywed.
Gyda grant o £3,000 sy’n cwmpasu tair blynedd o weithgaredd, mae Gweithredu dros Blant wedi cynnal 20 o sesiynau grŵp wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar lesiant emosiynol, creadigrwydd, a chysylltiad awyr agored. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gwneud smwddis, gwnïo, tyfu a chynaeafu bwyd a chrefftau grŵp.
Un ychwanegiad allweddol oedd prynu tŷ gwydr, cefnogi therapi garddwriaethol rheolaidd a chynnig lle i bobl ifanc ymlacio, canolbwyntio, a theimlo’n fedrus. Cyflwynwyd sesiynau chwarae therapiwtig hefyd, gan helpu cyfranogwyr i feithrin sgiliau cymdeithasol a hunan-barch mewn amgylchedd diogel.
Mae’r prosiect wedi helpu pobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus, yn llai ynysig ac mewn rheolaeth well o’u hemosiynau.
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.