Cysylltu cymunedau drwy arddio
Cronfa i Gymru
“Mae pobl yn chwilio am ffyrdd o fod yn gysylltiedig. Garddio cymunedol ydy o, ac rydw i’n credu bod y rhan gymunedol ohono yr un mor bwysig â’r rhan garddio.”
Gyda £6,000 gan Gronfa i Gymru dros dair blynedd, mae Clwb a Gerddi Cymunedol yn yr Wyddgrug wedi creu lle diogel a chroesawgar i bobl o bob oed a gallu gysylltu trwy weithgareddau garddio, creadigrwydd a lles.
Roedd llawer o bobl leol, gan gynnwys y rhai ag anableddau, heriau iechyd meddwl, neu anghenion dysgu ychwanegol, yn chwilio am ffyrdd ystyrlon o gysylltu ag eraill, meithrin hyder a theimlo’n rhan o rywbeth.
Daeth clybiau garddio misol, dan arweiniad prif arddwr, â phobl ynghyd trwy gariad at natur. Ochr yn ochr â hyn, helpodd sesiynau celf, coginio, ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol i feithrin cyfeillgarwch, lleihau unigedd ac annog dysgu a gwneud penderfyniadau ar y cyd.
Mae’r ardd wedi dod yn ganolfan dawel a chreadigol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn. O ddysgu am goed i ddyfnhau arferion ymwybyddiaeth ofalgar, mae cyfranogwyr yn ennill sgiliau newydd ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu.
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.