Cronfa Griced Pobl Ifanc
Gweledigaeth Cronfa Criced yng Nghymru yw:
Defnyddio criced i drawsnewid bywydau pobl naill ai yn y gymuned neu wrth wireddu eu potensial fel chwaraewyr criced yn y dyfodol.
Amcanion y Gronfa yw:
Hyrwyddo chwaraeon amatur criced yng Nghymru, yn enwedig ond nid o reidrwydd yn gyfan gwbl drwy:
- darparu cyfleoedd chwarae pleserus, strwythuredig a chystadleuol o fewn criced hamdden;
- creu llwybrau teg a chynhwysol i griced ledled Cymru gan alluogi pawb i chwarae ar y lefel y maent ei eisiau;
- adeiladu rhwydwaith rhanbarthol cryf o hyfforddwyr, swyddogion, tirmon a chyfleusterau cynaliadwy ar gyfer y gamp.
Hyrwyddo cyfranogiad cymunedol mewn hamdden iach yng Nghymru, yn enwedig drwy ddarparu a chynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ar gyfer trefnu chwarae criced a chwaraeon a gemau eraill mewn ffordd sy’n gallu darparu manteision iechyd a gwella bywydau unigolion a chymunedau.
Hyrwyddo addysg plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy ddulliau sy’n elusennol yn unig ac er budd y cyhoedd.
Etifeddiaeth i griced yng Nghymru
Mae gadael rhodd yn eich ewyllys i ‘Gronfa’ Sefydliad Criced Cymru yn ffordd arbennig iawn o drawsnewid bywydau pobl trwy griced am genedlaethau i ddod.
Darllen mwy