Hwb mawr i’r trydydd sector yng Nghymru

Mae’r newyddion bod £1m o gronfeydd elusennol segur yng Nghymru wedi cael eu datgloi drwy raglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn hwb mawr i’r sector.

Bydd hyn yn gweld rhyddhau cronfeydd sydd yn fawr eu hangen i weithgarwch cymunedol ledled Cymru. Bydd y rhan fwyaf drwy sefydliadau sydd heb fod yn defnyddio eu hadnoddau elusennol yn ddiweddar ond sydd wedi ymrwymo i gynllun gweithredu. Bydd peth o’r arian yn dod ar draws i Sefydliad Cymunedol Cymru i’w ddefnyddio mewn rhaglenni grant penodol neu i’w cynnwys yn ein cronfa gyffredinol, Cronfa i Gymru.

Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Elusennau a Sefydliad Cymunedol Cymru yw rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau ac mae’n dilyn ôl traed rhaglen debyg, lwyddiannus yn Lloegr.

Yng Nghymru fodd bynnag, ychwanegodd y pandemig lefel wahanol o gymhlethdod i’r rhaglen wrth i ymddiriedolwyr elusennau ganfod bod eu sylw yn cael ei ddargyfeirio at lu o faterion gwahanol. Mae cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf gan y Comisiwn Elusennau yn garreg filltir wrth ddatblygu’r prosiect ac yn arwydd go iawn ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

Drwy’rn rhaglen bydd y Comisiwn yn dadansoddi eu data i nodi elusennau y maent yn eu diffinio fel segur. Mae’r rhain yn sefydliadau sydd heb wario unrhyw arian yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf neu sydd wedi gwario llai na 30% o’u hincwm yn y pum mlynedd diwethaf. Mae’r marcwyr hyn wedi’u dewis gan eu bod yn arwydd o elusen segur.

Mae’r Comisiwn wedyn yn gwneud ymdrechion i gysylltu ag Ymddiriedolwyr y mudiad ac yn gofyn am sicrwydd bod yr elusen yn llunio cynlluniau ar gyfer eu gweithgareddau. Weithiau nid yw hyn yn bosibl. Efallai bod yr ymddiriedolwyr wedi marw a/neu efallai na fydd y gwrthrychau elusennol yn addas i’r diben mwyach. Gallai fod unrhyw nifer o resymau pam fod angen cymorth ar yr Ymddiriedolwyr. Yn yr achosion hyn, bydd y Comisiwn yn cyfarwyddo’r Ymddiriedolwyr at Sefydliad Cymunedol Cymru am sgwrs ar sut y gallwn helpu.

Mewn llawer o achosion, gallwn godi’r baich oddi wrth Ymddiriedolwyr, gan ddod â’r gronfa i’n gofal a chyflawni ei phwrpas elusennol gwreiddiol. Roedd hyn yn wir am gronfa TD Jones, lle’r oedd Ymddiriedolwyr yn cael amser caled yn rhedeg cronfa eglwysig a gynlluniwyd i ddarparu llyfrau i blant ysgol Sul. Gyda’n help, mae’r gronfa nawr yn cael ei defnyddio eto er mwyn budd y gymuned leol.

Y newyddion da yw bod y Comisiwn Elusennau yn gweithio ei ffordd drwy eu cronfa ddata i nodi mwy o arian elusennol y gellir ei adfywio yn yr un ffordd.

Yr wythnos hon, fe wnaeth Newyddion BBC Cymru gynnwys hanes Banc Bwyd Sgeti, enghraifft o’r math o sefydliad a all elwa o raglen Adfywio Ymddiriedolaethau. Roedd eu stori am gostau cynyddol bwydo’r rhai mwyaf bregus yn eu cymuned leol yn ein hatgoffa’n pam fod angen yr arian hyn yn fwy nag erioed.

Byddem yn annog unrhyw Ymddiriedolwr sydd angen cefnogaeth i ddod ymlaen ac i siarad â ni am sut y gall rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau helpu.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…