Trafodaeth ford gron ar gyllido ar sector digartrefedd

Beth yw’r ffyrdd gorau drwy’r hyn y gall sefydliad elusennol helpu mudiadau trydydd sector sy’n gweithio yn y sector digartrefedd a thai?

Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd mewn trafodaeth ford gron a drefnwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ac y bu ‘The Wallich’ yn ddigon caredig i’w chynnal.

Gwnaeth cynrychiolwyr o Cymorth Cymru, The Wallich, Llamau, Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Digartref Ynys Môn, Mind Merthyr a’r Cymoedd, a bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro ymuno â ni i rannu’u syniadau ar y ffordd orau y gall y rhaglenni cyllido gefnogi’r sector yng Nghymru. Ymunwyd â ni gan ddau o gydweithwyr o Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig, sydd wedi brocera dwy raglen gyllido newydd ar gyfer Cymru.

Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi sicrhau dau gyfle am gyllid i’r sector yng Nghymru, y naill drwy Gymdeithas Adeiladu’r Nationwide, a’r llall o dan y teitl Y Rhaglen Gweddnewid a Thwf.

Grantiau Cymunedol Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide:

Anogir prosiectau ac elusennau tai i ymgeisio am grantiau i helpu i wneud newid yn eu hardaloedd lleol. Bydd grantiau o hyd at £25,000 ar gael i sefydliadau sengl ac fe fydd hyd at £50,000 ar gael ar gyfer cynigion gan bartneriaethau. Gyda chyllid, fe fydd prosiectau llwyddiannus yn gallu darparu gwasanaethau tai i bobl anghenus, cynorthwyo pobl i fynd oddi ar y strydoedd, a mwy.

Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau sydd wedi’u categoreiddio o dan dair Thema Allweddol:

  1. Atal pobl rhag bod yn ddigartref; gellid gwneud hyn drwy wella amodau corfforol, emosiynol neu gymdeithasol. Er enghraifft, datblygu llety newydd ar gyfer y rheiny sy’n ddigartref ar hyn o bryd.
  2. Helpu pobl i gael cartref; gallai hyn fod drwy helpu pobl i gael llety â chymorth neu drwy sefydlogi llety ar rent. Er enghraifft, helpu pobl i allu cael cynlluniau bond.
  3. Cynorthwyo pobl i aros yn eu cartref; gallai hyn fod drwy gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartref presennol. Er enghraifft, cynnig addasiadau i gynorthwyo pobl hŷn neu bobl ag anableddau i fyw gartref ac i barhau i fod yn weithgar.

Y Rhaglen Gweddnewid a Thwf:

Bydd y Rhaglen Gweddnewid a Thwf yn darparu grantiau o rhwng £10,000-£25,000 i elusennau bach i ganolig eu maint sy’n gweithio yn y sector digartrefedd a thai ledled y Deyrnas Unedig (gan ganolbwyntio’n benodol yng Nghymru ar dde-ddwyrain y wlad). Nod y Gronfa yw creu a gwella cadernid yn y sector. Mae yna £225,000 ar gael i Gymru dros ddwy flynedd gychwynnol y rhaglen.

  • Rhoi sylw i faterion tai a digartrefedd lleol drwy ddarparu grantiau datblygiadol i fudiadau llawr gwlad i ddatblygu cynaliadwyedd, datblygu syniadau a defnyddio datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
  • Defnyddio’r cymorth i ddatblygu mudiadau cynaliadwy sy’n gallu rheoli’u darpariaeth yn well mewn amseroedd anwadal.

Bydd y rhaglen yn weithredol am dair blynedd, sef dwy flynedd o gyflawni a blwyddyn o werthuso, ac fe ddylai cyfranogwyr ddisgwyl gweithio â’n partneriaid gwerthuso yn y flwyddyn neu ddwy y cânt eu cyllido. Mae’n debygol o fod yn broses ymgeisio hwy nag arfer, gydag amryw o weithdai ac arolwg lleol o’r ddarpariaeth bresennol, i’n helpu i ddeall beth mae ar y sector lleol ei angen ac ymhle y caiff cymorth ei roi orau.

Canolbwyntiodd y sesiwn drafod ar heriau sy’n wynebu mudiadau a chyfleoedd dichonol ar gyfer defnyddio’r arian newydd yn y modd gorau. Roedd syniadau a rannwyd yn cynnwys:

  • Mae ar fudiadau angen cymorth i gynnal gwasanaethau arbenigol a chymorth/gweithgareddau y tu hwnt i denantiaeth, e.e. dull cyfannol tuag at gymorth, yn cynnwys magu cysylltiadau diogel a chryf/rheoli iechyd a lles;
  • A all mudiadau gydweithio i ddatblygu pecynnau hyfforddi?
  • A oes yna gyfleoedd am gydwasanaethau ystafell gefn?
  • Sefyllfaoedd lleol; er enghraifft, ar Ynys Môn, lle y bydd datblygu gorsaf bŵer newydd yn effeithio’n aruthrol ar y cyflenwad tai;
  • Mae ar fudiadau angen cymorth i’w staff, sydd yn aml yn cynorthwyo pobl drwy ddigwyddiadau trawmatig;
  • Sut mae mudiadau’n sicrhau’u bod yn gallu darparu gwasanaethau ataliol?
  • Natur wledig – mae niferoedd y bobl sydd heb do uwch eu pennau yn uwch nag a amcangyfrifir ac mae costau darpariaeth yn uwch yn yr ardaloedd hyn. Sut rydym yn gwneud y mater hwn yn fwy gweledol mewn ardaloedd gwledig?
  • Cyfryngu teuluol i helpu i atal pobl, yn enwedig pobl ifanc, rhag mynd yn ddigartref.

Mae Cymorth Cymru wedi cytuno i weithio â’r sefydliad i roi cyhoeddusrwydd i’r ddwy gronfa newydd ac i sicrhau bod gan y sector wybodaeth am y cyfleoedd.

Dywedodd Richard Williams, prif weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: “Mae’n bwysig inni fynd allan a gwrando ar y mudiadau sy’n gweithio yn ein cymunedau, ac i glywed ganddynt am eu heriau ac ymhle mae yna fylchau mewn cyllido.

“Roedd y sesiwn yn addysgiadol ac fe roddodd well syniad inni sut y gall ein rhaglenni cyllido gael yr effaith fwyaf yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rheiny a gymerodd ran ac fe edrychwn ymlaen at ragor o drafodaethau wrth inni roi’r rhaglenni cyllid ar waith fesul cam.”

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…