Gŵyl cerddorol yn dod phobl o wledydd Celtaidd ynghyd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr
Mae Cwlwm Celtaidd yn ŵyl flynyddol dridiau o hyd a gynhelir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a ddaw â phobl ynghyd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ddathlu cerddoriaeth, canu a dawnsio traddodiadol o wledydd Celtaidd.
Mae artistiaid gwerin poblogaidd o genhedloedd Celtaidd, megis Iwerddon, Llydaw ac Ynys Manaw, yn ymuno â pherfformwyr o Gymru ar restr berfformio’r ŵyl, wrth i gerddorion a dawnswyr amatur a phroffesiynol gymryd rhan mewn gweithdai, arddangosfeydd ar strydoedd, ymweliadau ag ysgolion, ceilidhau a sesiynau cerdd ledled y wlad.
Mae Cwlwm Celtaidd yn darparu llwyfan i gerddorion Cymru arddangos eu doniau, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddynt ryngweithio â pherfformwyr eraill a dysgu oddi wrthynt. Mae llawer o’r perfformwyr yn canu yn eu hieithoedd brodorol, yn cynnwys llawer o berfformwyr o Gymru. Mae’r amlieithrwydd hwn yn caniatáu i gynulleidfaoedd brofi ieithoedd na fyddent efallai fel arall yn cael cyfle i’w clywed, gan godi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’n hiaith frodorol ein hunain.
Dyfarnwyd £1,000 i Cwlwm Celtaidd oddi wrth y Gronfa i Gymru tuag at eu gŵyl yn 2017. Galluogodd y grant hwn i’r grŵp gynnwys hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc na’r flwyddyn flaenorol drwy drefnu cystadleuaeth corau ysgol a rhaglen allgymorth ddiddorol. Gobeithir, drwy estyn allan at y bobl ifanc hyn yng Nghymru, y bydd y genhedlaeth nesaf yn falch o’u treftadaeth a’u traddodiadau eu hunain, gan ddysgu am ddiwylliant y rheiny sy’n rhannu’u gwreiddiau Celtaidd.