Richard Williams wedi’i benodi fel y Prif Weithredwr newydd

Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi penodiad Richard Williams fel Prif Weithredwr newydd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Mae Richard yn ymuno â ni o’r elusen Action on Hearing Loss, lle roedd yn Gyfarwyddwr dros Gymru.  Cyn iddo ddechrau gweithio yn y trydydd sector, roedd Richard yn olygydd papur newyddion, gan arwain y South Wales Echo a’r Wrexham Evening Leader, ac roedd hefyd wedi dal swyddi uchel gyda’r Daily Post a Wales on Sunday.  Mae Richard yn aelod o fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Hafan Cymru, ac mae’n gynrychiolydd cenedlaethol y trydydd sector ar Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

Gan fyfyrio ar ei benodiad, dywedodd Richard: “Rwyf wrth fy modd o fod yn ymuno â thîm y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac fe edrychaf ymlaen at weithio i sicrhau y cawn hyd yn oed fwy o effaith gadarnhaol ar gymunedau ledled Cymru.”

Edrychwn ymlaen at groesawu Richard at dîm y Sefydliad ym mis Medi ac fe ddymunwn bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd.

News

View all

Over £1.3m awarded in grants to support Welsh communities through the cost of living crisis

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Making grants more accessible with Easy Read

Making grants more accessible with Easy Read