Mae Grwpiau Cymunedol Gwent yn rhannu 75,000 o Gronfa r Uchel Siryfion
Ymgasglodd grwpiau cymunedol o bob cwr o Went yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd fore Sadwrn (y 18fed o Fawrth) i rannu bron i £75,000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent.
Roedd digwyddiad rhoi grantiau blynyddol yr Uchel Siryfion, ‘Eich Llais, Eich Dewis’, yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i ddyfarnu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent. Mae’n fformat arloesol o roi grantiau sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu datrysiadau y maen’ nhw’n credu fydd yn gweithio orau i faterion lleol.
Roedd cerddoriaeth, dawnsio a barddoniaeth ond yn rhai o’r ffyrdd creadigol lle y rhannodd grwpiau’r gwaith y maent yn ei wneud i ysbrydoli pobl ifanc ac i greu cymunedau diogelach a chryfach ledled Gwent. Roedd gan bob grŵp ddau funud i ‘werthu’ eu prosiect, gyda phob cyflwyniad wedyn yn derbyn sgôr gan y grwpiau eraill. Ar ôl i’r sgoriau gael eu cyfrif, rhannodd 22 o brosiectau, a aseswyd gan eu cymheiriaid fel prosiectau sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau mwyaf brys, grantiau a wna gyfanswm o £73,880.
Arweiniwyd y digwyddiad gan Uchel Siryf Gwent, Mr Anthony Clay, DL, ac roedd hefyd yn cynnwys araith gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Mr Jeff Cuthbert. Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Atwell, a fu mor garedig â llywyddu’r digwyddiad.
Y dathliad blynyddol o roi grantiau yw uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent a dyma oedd pen llanw blwyddyn o godi arian gan yr Uchel Siryf cyfredol. Daeth cyfraniad sylweddol at y pair grantiau hefyd o arian comisiynu dan ofal y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Mr Jeff Cuthbert.
Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent yn gweithio’n galed i greu cymunedau diogelach yng Ngwent drwy gefnogi prosiectau sydd yn anad dim yn mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni’u potensial. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl yng Ngwent.
Dywedodd yr Uchel Siryf, Anthony Clay, DL: “Drwy gydol fy mlwyddyn siryfol, rwyf wedi cael y fraint enfawr o gyfarfod â llawer o wirfoddolwyr a grwpiau ymroddedig sy’n gweithio mor galed i greu cymunedau diogelach a chryfach ledled Gwent; maent wedi bod yn ysbrydoliaeth. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi ddydd Sadwrn waith ardderchog 22 o’r sefydliadau hyn. Rwyf yn eithriadol o ddiolchgar i bawb yng Ngwent sydd wedi rhoddi i’r gronfa eleni ac i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Mr Jeff Cuthbert, ac i Sefydliad Waterloo am eu cefnogaeth ddiwyro.”
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi rheoli Cronfa Uchel Siryfion Gwent ers saith mlynedd, gan ddal y gwaddol a’r cronfeydd bychain a godwyd gan Uchel Siryfion, wrth iddynt gyflawni’r rhaglen grant flynyddol. Dywedodd Tom Morris o’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: “Roedd o’n galonogol gweld ymroddiad ac ymrwymiad gwirfoddolwyr ledled Gwent sydd yn amlwg mor angerddol awyddus i wneud eu cymunedau’n fannau cryfach a diogelach i bobl fyw ynddynt. Hoffwn longyfarch yr holl grwpiau am yr ymdrech a’r creadigrwydd a ddangosasant yn eu cyflwyniadau ac am y dewrder i rannu’r hyn oedd ar adegau yn hanesion hynod emosiynol a phersonol. Holl ddiben rhoi grantiau cyfranogol yw rhoi pobl leol, sef y rheiny sy’n gwybod orau am yr heriau sy’n wynebu’u cymunedau, i arwain fel y gall cyllid gael yr effaith fwyaf sylweddol. Rhydd y fformat hwn ffordd arall i bobl gyfathrebu’u neges, a llwyfan i rannu’u hegni a’u hangerdd dros wneud gwahaniaeth. Rydym wrth ein bodd y bydd 22 o brosiectau rhagorol, diolch i’r cyllid hwn, yn dechrau arni yn o fuan, ac rydym yn teimlo’n llawn cyffro o weld sut y byddant yn datblygu dros y misoedd i ddod.”