Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn agor ar gyfer y ceisiadau cyntaf
“Cerddwn ochr yn ochr â llawer o roddwyr sydd eisiau helpu pobl ifanc, a phan fyddaf yn sgwrsio â rhai o’r 100 fwy neu lai o’r myfyrwyr hynny rydym yn eu cefnogi bob blwyddyn ag ysgoloriaethau – o brentisiaid trin gwallt i fyfyrwyr Gradd Meistr – gwneir argraff arnaf bob amser gan y ffaith bod hyn yn gydnabyddiaeth o gael eich ystyried yn deilwng o ddiddordeb rhywun arall; mae hynny’r un mor bwysig â’r elfen ariannol o’u helpu i gyflawni’u nod.
“Mae llawer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus o gael rhiant, noddwr, neu fentor i gerdded wrth ein hochr. Dyma’r cymhelliad sylfaenol sydd gan Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain – i gefnogi Cymry ifainc mentrus ac uchelgeisiol i fynd ar drywydd eu breuddwydion. A chan ddilyn esiampl ein rhoddwyr, gobeithiwn eu hannog i roi yn ôl eu hunain wedyn.”
Mae Cymru yn Llundain yn darparu cyswllt i Gymru ac yn caniatáu rhai yn Llundain i ymwneud â materion sy’n bwysig i Gymru . Mae’r fforwm yn Llundain yn lle y gall pobl Cymru gyfrannu at y trafodaethau cenedlaethol ar faterion cymdeithasol, economaidd, chwaraeon, creadigol a busnes. Gall grantiau o’r gronfa dalu costau sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr, ysgoloriaethau, bwrsariaethau busnes, profiad gwaith a datblygu gyrfa yn Llundain neu’r tu allan i Gymru.
I ymgeisio, mae’n rhaid ichi gwblhau ffurflen gais y gellir ei chanfod ar dudalen we Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain neu fel arall, fe allwch gysylltu â’r Sefydliad ar 02920 379 580 neu drwy anfon e-bost at grants@cfiw.org.uk i gael mwy o wybodaeth.
Gall unigolion ymgeisio am grantiau rhwng £500 a £1,250.