Diwrnod Ymgysylltu Cronfa’r Dioddefwyr Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru; 16eg o Fehefin, 2016
Ar yr 16eg o Fehefin, yng Ngwesty’r Heronston ym Mhen-y-bont ar Ogwr, daeth tri mudiad ar ddeg o bob cwr o ardal Heddlu De Cymru ynghyd fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cronfa’r Dioddefwyr i gyflwyno’u cais i Banel Cronfa Dioddefwyr Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Cyflwynodd y mudiadau brosiectau sydd â’r nod o gefnogi dioddefwyr sydd wedi dioddef yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o droseddau ac atebasant ragor o gwestiynau am eu gwaith gan y gynulleidfa. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys aelodau’r cyhoedd a wahoddwyd, pob un o’r tri mudiad ar ddeg ar y rhestr fer, staff o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a staff o’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Agorwyd y digwyddiad gan Brif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol, Liza Kellett, gydag Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn cloi’r digwyddiad.
Gwnaeth Cronfa’r Dioddefwyr, a lansiwyd ym mis Mawrth, ystyried ceisiadau oddi wrth fudiadau gwirfoddol a thrydydd sector am gyllid tuag at wasanaethau dioddefwyr arbenigol. Y prif nod oedd cefnogi prosiectau newydd neu brosiectau presennol a weithiai ag unigolion a’u teuluoedd yr effeithiwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol arnynt gan drosedd. Roedd pwyslais y meini prawf ar syniadau arloesol, sy’n gallu cydategu gwasanaethau presennol i ddioddefwyr. Ymgeisiodd ymgeiswyr am grantiau o hyd at £20,000 i ddarparu’u prosiect.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i rannu profiadau, hanesion ac arbenigedd , roedd yn gyfle i rwydweithio, i greu cysylltiadau cryfach â chyd-sefydliadau, ac i ystyried materion a datrysiadau sydd y tu hwnt i’w cylch gwaith arferol. Anogodd Wendy Evans, Swyddog Arweiniol dros Wasanaethau Dioddefwyr yn Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, y math hwn o rannu gwybodaeth, ac fe anogodd y gynulleidfa i gymryd rhan drwy ofyn cwestiynau i gyflwynwyr, er mwyn creu mwy o ddealltwriaeth o brosiectau a myfyrio ar ffyrdd o wella a thyfu ar gyfer y dyfodol.
Roedd grymuso a rhannu profiadau ar gyfer newid positif, ymarferol yn un o themâu’r digwyddiad a gododd dro ar ôl tro. Eglurodd Lucy Holmes, siaradwraig ar ran Cymorth i Fenywod Port Talbot ac Afan, sut y galluogai ‘Material Girls’, menter gymdeithasol y mudiad, ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig ‘i ffynnu’, drwy ‘dorri cylch’ trais, dysgu sgiliau a gwneud cyfeillion. Yn yr un modd, nod Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro oedd troi’r ‘dioddefwr yn gyfarwyddwr’ , gan reoli’u hanesion eu hunain drwy’r broses greadigol.
Yn ogystal, roedd llais ac anghenion y dioddefwyr yn parhau wrth graidd y darpar brosiectau, ‘llais cyfunol’ (Cymorth i Ferched Cymru) dioddefwyr, yn ganolog i’r trafodaethau, gan ymateb a llunio atebion i’w hanghenion. Pwysleisiodd cyflwyniad Ynys Saff y ddadl hon, gan ddisgrifio’u prif rôl fel helpu dioddefwyr ‘i adeiladu’u gwytnwch, eu gwybodaeth a’u profiad eu hunain i wella’, gan gydnabod y rôl hanfodol sydd gan lunio penderfyniadau cydweithredol, a wnaed ar sail gwybodaeth. Disgrifiodd goroeswr a mentor i ‘Ferthyr Tudful Mwy Diogel’ ‘mai ei gwobr eithaf yw gweld fy nisgyblion yn gwenu’.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle a chanddo effaith o ran ymgysylltu, o ran rhannu gwybodaeth ac o ran dim ond gwrando ar brofiad ac arbenigedd eraill, gan roi llais ac adferiad dioddefwyr ar ganol y llwyfan.
Mi lwyddodd y prosiectau isod i ddiogelu arian o’r gronfa;
Cymorth i Ferched Port Talbot ac Afan
Mae’r prosiect cyfarwydd, ‘Material Girls’ yn rhaglen ailgylchu tecstilau sy’n cynnig profiad gwirfoddol, yn datblygu dyheadau ac yn creu lleoliad creadigol i ferched sydd wedi dioddef camdrin domestig wneud ffrindiau.
Cymorth i Ferched Caerdydd
Drwy gynnal sesiynau grwp, cyfarfodydd un i un a datblygu’r adnoddau cymorth ar-lein a negeseuon testun dros y ffôn, nod y prosiect yw cynorthwyo achosion o atgyfeirio risg canolig Hysbysiadau Diogelu’r Cyhoedd oddi wrth Cymorth i Ddioddefwyr drwy ymyriadau adfer.
Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro
Bydd ‘Creativity for Recovery’ yn cyflwyno gweithdai a phrosiectau grwp i bobl ifanc ac oedolion sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau, ac wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag anghenion a phryderon yr unigolion eu hunain drwy broses gydweithredol. Caiff y cynllun ei redeg gan hwyluswyr wedi’u hyfforddi, a bydd yn defnyddio dull creadigol, yn seiliedig ar weithgareddau, er mwyn ystyried y themâu a godir mewn lleoliad agored y gallwch fynegi eich hun yno.
Cymorth i Ferched Rhondda Cynnon Taff
Drwy sefydlu gwasanaethau galw heibio a gwasanaethau cyfeirio, nod y prosiect fyddai codi ymwybyddiaeth o ymddygiad treisgar, cydnabod rhybuddion cynnar o gamdrin, a chreu rhwydweithiau cymdeithasol cefnogol ymhlith y bobl hynny sydd fwyaf tebygol o dorri cylch trais.
Cymorth i Ferched Cymru
Bydd prosiect ‘Survivors Participation’ yn ymgymryd â’r gwaith o fentora cyfoedion ar gyfer goroeswyr camdrin yng Nghaerdydd, drwy sesiynau grŵp a hyfforddiant er mwyn hysbysu a grymuso merched, gyda’u profiadau wrth wraidd y cwrs. Bydd y prosiect yn ailgysylltu menywod â’u cymunedau lleol.
Cerdd Gymunedol Cymru
Bydd gweithdai Theatr Fforwm, mewn partneriaeth â rhaglen ‘Mae Plant yn Bwysig’ Cymorth i Ferched Cymru, yn ymgysylltu ac yn annog plant sydd wedi cael profiad o drais neu drosedd i ystyried agweddau ar gamdrin domestig a mynegi eu hunain mewn amgylchedd cadarnhaol ac agored yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn gwella hunanhyder ac yn eu helpu i drafod eu problemau a chreu dealltwriaeth gyda ffrindiau a theulu.
Unity Group Wales
Prif fwriad y prosiect yw ehangu a chynnal cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb LGBT yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Bydd gweithwyr cymdeithasol rhan amser yn cynnal sesiynau lles cynhwysfawr er mwyn galluogi dioddefwyr i ymdopi ag effeithiau emosiynol troseddau casineb a rhoi cymorth i unigolion ac i deuluoedd. Yn ogystal â hyn, bydd y prosiect yn caniatáu mwy o ymweliadau addysgiadol ac ymweliadau ag ysgolion wedi’u trefnu gan y Grŵp er mwyn codi ymwybyddiaeth a chwalu rhwystrau.
Ynys Saff, Clinig Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Caerdydd a’r Fro
Canllaw i unigolion sydd wedi dioddef camdrin rhywiol neu wedi cael rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arnynt yw The Sexual Violence Recovery Toolkit. Bydd y rhaglen 12 wythnos o hyd yng Nghaerdydd yn darparu cymorth i unigolion i ddatblygu strategaethau ymdopi bob dydd cadarnhaol, er mwyn osgoi mynd yn ôl i’r arfer a chyfrannu at eu hiechyd a’u lles eu hunain yn yr
hirdymor.
Cymru Ddiogelach Cyf
Mae ‘Prosiect Dyn’ wedi’i anelu at godi ymwybyddiaeth o asiantaethau priodol ar gyfer dynion hoyw, deurywiol, heterorywiol a thrawsrywiol sydd wedi cael profiad o gamdrin domestig, ac mae’n addo datblygu’r gwasanaeth y tu hwnt i Gaerdydd i Dde Cymru. Drwy gymorth gan yr Eiriolwyr Camdrin Domestig Annibynnol, sy’n cynghori ar anghenion tai ac arweiniad cyfreithiol, a chysylltiadau agos â’r gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr perthnasol, y prosiect fydd y pwynt cyswllt cyntaf i’r sawl sydd mewn angen ac yn gwella eu diogelwch a’u lles.
Merthyr Tudful Mwy Diogel
Mentoriaid Gwirfoddol a fydd yn cefnogi dioddefwyr camdrin domestig wrth leihau unigedd, gwella diogelwch, iechyd a lles drwy fentora un i un, mentora grŵp a mentora cyfoedion, ysbrydoli dioddefwyr, magu hunanhyder a chryfhau lleisiau’r dioddefwyr.