Y Cylch Rhoi Byd-eang Rhith Cyntaf Erioed i Gymunedau Cymreig dyblu r holl roddion!
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn gwahodd pawb sy’n caru Cymru – o ba le bynnag yn y byd – i ymuno â’n Cylch Rhoi Byd-eang rhith cyntaf erioed. Ac yntau’n cael ei lansio ar y 25ain o Ionawr sef Dydd Santes Dwynwen (Sant Valentine Cymru), gan gyrraedd ei anterth Ddydd Gŵyl Dewi, a gorffen ar yr 31ain o Mai, dyma ddathliad o Gymru!
Eglurodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, “Rydym ar ben ein digon o gyflwyno ffordd newydd o roi yn ôl i Gymru ar raddfa fyd-eang – ac yn ei lansio ar ddiwrnod cariadon Cymru!”
Fel cylch rhoi ar-lein cyntaf y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar gyfer cymunedau Cymreig, dyma ben llanw’r rhaglen hon i annog pobl i roi i achosion lleol, gan uno rhwydwaith byd-eang o ddyngarwyr i ddangos eu cariad at Gymru.
Mae’r Sefydliad wedi dewis pump o fudiadau ‘trysor’ i gynrychioli’r ystod eang o waith cymunedol ac elusennol sy’n cefnogi ac yn dathlu diwylliant, treftadaeth, iaith a chymunedau Cymreig. Bydd pob rhodd a dderbynnir hyd at ein targed o £5,000 cyntaf yn derbyn arian cyfatebol bunt am bunt, ac fe’i rhannir yn gyfartal rhwng y pum ‘trysor’ sydd yng Ngogledd America, Patagonia, Llundain a Chymru. Unwaith y cyrhaeddir y targed hwn, rhoddir yr holl roddion ychwanegol i’n Cronfa i Gymru, a bydd hefyd yn derbyn arian cyfatebol, diolch i’n her arian cyfatebol gan y Loteri Fawr.
Cyhoeddir y pum ‘trysor’ dros yr wythnosau nesaf, a bydd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn cysylltu â phobl sy’n angerddol dros Gymru drwy gyfryngau cymdeithasol a digidol, gan roi’r cyfle iddynt roi rhywbeth yn ôl i Gymru.
Diolch am ymuno â’n cymuned o roddwyr o bob cwr o’r Byd sy’n dangos eu cariad at Gymru.