Ail-sefydlu Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru i gefnogi Cymunedau Cymru ar l llifogydd a stormydd y gaeaf

Ail-sefydlu Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru i gefnogi Cymunedau Cymru ar ôl llifogydd a stormydd y gaeaf

Ddydd Calan eleni, sefydlodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru gronfa newydd i helpu cymunedau i gael eu cefn atynt yn dilyn stormydd a llifogydd difrifol y gaeaf hwn.

Mae’r llifogydd wedi bod yn dyst i 1,400 o bobl yn gorfod dechrau ar y flwyddyn newydd heb bŵer ar ôl i werth mis o law ddisgyn mewn 24 awr.  Roedd yn rhaid achub gyrwyr yng Ngogledd Cymru o geir y gorfu iddynt eu gadael ar y clwt ac yn arnofio, a chaewyd priffyrdd megis yr A55 yn gyfan gwbl Ddydd Gŵyl San Steffan.  Ymlafniodd gweithwyr ymladd tân drwy’r nos i ddiogelu cartrefi oedd dan fygythiad o lifogydd rhag miloedd o alwyni o ddŵr.

O ganlyniad i’r stormydd geirwon ac yn dilyn pryder y cyhoedd am y teuluoedd a’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, fe wnaeth y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ail-sefydlu Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru.

Gwahoddir rhoddwyr o bob cwr o Gymru i roi i’r gronfa fydd, dros yr wythnosau a’r misoedd a ddaw, yn dyfarnu grantiau i elusennau a phrosiectau cymunedol yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf.

Dywedodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad, “Ddwy flynedd yn ôl, rhoddodd amrywiaeth o roddwyr y swm bendigedig o £85,000, a helpodd bobl o bob cwr o Gymru i oresgyn yr heriau a wynebwyd oherwydd y tywydd eithafol.  Darparodd grantiau a ddyfarnwyd gymorth gwerthfawr i grwpiau a phrosiectau cymunedol gan helpu pobl o bob oed i atgyweirio, i adfer ac i ailadeiladu’u cymunedau.

“Er enghraifft, derbyniodd ymdrechion  lliniaru llifogydd Y Rhyl grant o £25,000, a gynorthwyodd gyda’r costau o ddarparu cefnogaeth gyfeillgar a chymorth i bobl ar ôl i’w cartrefi ddioddef llifogydd.  Dyfarnwyd grantiau eraill i grwpiau gwirfoddol bychain , megis y Cascade & District Allotment Association, a lwyddodd i atgyweirio to eu cwt storio cymunol a ddifrodwyd gan wynt, gan alluogi mwy o bobl i fynd ati i arddio.

“Fel elusen sy’n ymroi i gysylltu rhoddwyr â gwneuthurwyr, sefydlasom y gronfa adferiad llifogydd newydd hon i fod yn ffordd hawdd ac effeithiol i roddwyr helpu prosiectau lleol i adfer eu hysbryd cymunedol.  Diolch ichi am gefnogi cymunedau ledled Cymru i ailgodi ar ôl tymor y Nadolig oedd â chwmwltywyll o dywydd a llifogydd difrifol uwch ei ben.”

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…