Llywodraeth Cymru’n rhoi £1 miliwn i ‘Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – Apel Argyfwng Costau Byw’
Mae’r argyfwng costau byw nid yn unig wedi effeithio ar unigolion a theuluoedd yng Nghymru ond hefyd ar sefydliadau sector gwirfoddol sydd yn gweld cynnydd sylweddol mewn costau gweithredu.
Ar yr un pryd ag y mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn wynebu costau uwch, mae hefyd yn wynebu cynnydd yn y galw am y gwasanaethau y mae’n eu darparu. Mae mudiadau yn y sector gwirfoddol yn helpu rhai o’r bobl bregus yn ein cymunedau gyda chymorth a chyngor ynghylch dyled a chymorth budd-daliadau; mynediad at fwyd, dillad ac eitemau hanfodol eraill; cymorth i bobl hŷn a llawer mwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £1 miliwn i gefnogi Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – Apêl Argyfwng Costau Byw.
Lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru, gyda phartneriaid Newsquest, apêl Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – Apêl Argyfwng Costau Byw i gefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.
Mae’r apêl eisoes wedi ei gefnogi gyda rhoddion gan fusnesau Cymreig fel Wind2 Limited, Welsh Water and Dragon Taxis a Llywodraeth Cymru erbyn hyn gyda’u cyfraniad hael iawn.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a ymwelodd â Steps4Change i weld sut maent yn cefnogi pobl yn Butetown:
“Fel cymdeithas rydym yn gynyddol ddibynnol ar y sector gwirfoddol i roi cymorth i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.
Maent yn chwarae rôl hanfodol trwy bobl fel cymorth gofal plant, banciau bwyd sy’n helpu aelwydydd i fwydo eu teuluoedd a’u gwasanaethau cynghori ynghylch sut y gall pobl wneud y gorau o’u hincwm.
Rydym yn falch ein bod yn gallu cyfrannu’r rhodd hon i’r Gronfa Costau Byw a byddwn yn annog sefydliadau eraill i wneud rhoddion eu hunain hefyd, gan y bydd y gronfa hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled Cymru.”
Meddai Gavin Thompson, golygydd rhanbarthol Wales Newsquest, a golygydd y South Wales Argus:
“Dydy pethau ddim yn hawdd i’n darllenwyr reit ar draws Cymru. Dyna pam wnaeth Newsquest, ynghyd â Sefydliad Cymunedol Cymru, lansio Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd, oherwydd – o Wrecsam i Dyddewi a Chasnewydd i Aberteifi – gyda’n gilydd gallwn helpu i wneud bywydau pobl sydd yn ei chael hi’n anodd iawn yn well.
Bydd y rhodd hael hon gan Lywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Cymru. Bydd yn ein galluogi i weithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru i ddosbarthu grantiau i helpu grwpiau cymunedol lleol i barhau i gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol.
Po fwyaf o fusnesau a sefydliadau sy’n gallu ymuno â Llywodraeth Cymru wrth addo rhoddion yn wythnosau olaf yr apêl, y mwyaf y gallwn ei wneud i helpu.
Rwy’n edrych ymlaen at ein teitlau newyddion yn rhannu’r straeon am sut mae’r arian yma’n helpu pobl yn ystod y misoedd nesaf.”
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Mae darparu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru eisoes o dan bwysau. Mae’r gwasanaethau y mae’r sector gwirfoddol yn eu darparu yn aml yn ategu darpariaeth y sector cyhoeddus ac yn cyfrannu at lenwi rhai o’r bylchau. Mae’r argyfwng costau byw yn peryglu llawer o’r mudiadau sector gwirfoddol hyn.
Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y rhodd hael hon gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth mawr i’r llu o bobl sy’n brwydro trwy’r argyfwng costau byw.
Os ydyn ni eisiau i’r grwpiau hyn barhau i fod yma y tu hwnt i’r argyfwng hwn, mae angen i ni fel cymdeithas ddod at ein gilydd i’w cefnogi nhw – dyna pam mae angen cefnogaeth gan bobl a busnesau yng Nghymru nawr yn fwy nag erioed.
Bydd y grantiau o’r apêl hon yn cyfrannu’n fawr at sicrhau bod y sefydliadau sy’n cefnogi’r rhai mwyaf anghenus yn gallu parhau i wneud hynny nawr, ac yn y misoedd anodd sydd i ddod.”
Meddai, Alun Evans, Cadeirydd Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Mae angen i ni helpu pobl sy’n dioddef yn y cyfnod hwn o chwyddiant ac angen uchel. A’n gwaith ni yw sicrhau bod yr help yn mynd lle mae ei angen.”
I wneud y mwyaf o bob rhodd, gellir paru rhoddion hyd at £25,000 gan unigolion, gan gyfateb â phob £1 a roddwyd â £1 yn ychwanegol.
Diolch i Sefydliad Steve Morgan, The Waterloo Foundation a Moondance Foundation, gall busnesau Cymru hefyd wneud i’w rhodd fynd ymhellach gydag arian cyfatebol.