Blwyddyn o gefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu dros £450,000 mewn grantiau i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru.
Manylir ar ymateb Cronfa Cenedl Noddfa Croeso wrth gefnogi anghenion brys y bobl a ddadleolwyd gan wrthdaro yn adroddiad ‘Cefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru‘, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru y gronfa ym mis Mawrth 2022, gan ddenu rhoddion cyhoeddus yn ogystal â chyfraniadau hael gan Sefydliad Moondance, Cronfa LNB, Y Groes Goch Brydeinig, Cronfa Elusennol y Seiri Rhyddion ac Elusen Gwendoline ac Margaret Davies.
Yn fuan iawn, roedd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cydnabod yr angen uniongyrchol a dwys ar gyfer grwpiau sy’n cefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa ledled Cymru ac, ar ran Llywodraeth Cymru, bu iddi gyhoeddi rhodd o £1m i’r gronfa.
Yn hytrach na sefydlu cronfa sy’n mynd i’r afael â’r angen uniongyrchol yn unig, sefydlodd Sefydliad Cymunedol Cymru Gronfa Croeso Cenedl Noddfa fel cronfa waddol, sy’n cefnogi anghenion pobl sy’n chwilio am noddfa heddiw a sicrhau bod yr arian hwn yn parhau i fod ar gael yn y dyfodol.
Fel y manylir yn yr adroddiad ‘Cefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru’, mae grwpiau wedi cael cymorth yn cynnwys côr i bobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghaerdydd, ‘canolfan gartref’ i bobl sy’n chwilio am noddfa yn Wrecsam a’r cylch ac ysgol ‘Ysgol Noddfa’ gyntaf ardal Sir Benfro.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Rydym yn falch ein bod wedi cefnogi cymunedau ar draws Cymru i roi croeso cynnes Cymreig i’r llu o bobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro ac i chwilio am noddfa yn ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Mae rhannu straeon pobl sydd wedi cael cymorth gan Gronfa Croeso Cenedl Noddfa wedi helpu’n fawr i ddangos pwysigrwydd hanfodol y gronfa.
Yr hyn y mae ein hadroddiad yn ei ddangos yn glir yw, er ein bod wedi derbyn llawer iawn o roddion i gefnogi pobl sydd wedi’u dadleoli, mae’r galw am gyllid yn dal yn uchel iawn. Cafodd y gronfa ei boddi gan geisiadau ac yn anffodus doedden ni ddim yn gallu cefnogi nifer o brosiectau sy’n gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl oedd yn chwilio am noddfa a cheisio adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.
Gobeithiwn y bydd ein hadroddiad yn annog y cyhoedd yng Nghymru a busnesau i gyfrannu a chefnogi Cronfa Croeso Cenedl Noddfa i helpu hyd yn oed mwy o bobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru. ”
Dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn falch o fod yn Genedl Noddfa yng Nghymru. Mae’n galonogol clywed am y sefydliadau sydd wedi elwa o’r gronfa yma a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar gymunedau ledled Cymru. Fe wnaethom roi £1m i’r gronfa hon gan ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy’n chwilio am noddfa yn cael y gefnogaeth angenrheidiol nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu a chyfrannu at ein cymunedau.”