NatWest Cymru yn rhoi £100,000 i ‘Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw’
Mae apêl argyfwng costau byw, a sefydlwyd i gefnogi sefydliadau’r sector gwirfoddol ledled Cymru, wedi derbyn rhodd o £100,000 gan NatWest Cymru.
Mewn partneriaeth â Newsquest, lansiwyd apêl argyfwng costau byw Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd i gefnogi mudiadau gwirfoddol ar lawr gwlad sy’n cael trafferth talu costau cynyddol a bodloni lefelau uwch o alw.
Yn aml, sefydliadau sector gwirfoddol yw’r glud sy’n dal cymunedau at ei gilydd, gan ddarparu cefnogaeth barhaus lle mae gwasanaethau statudol yn stopio a bod yn hyblyg ac yn addasadwy i anghenion newidiol pobl leol.
Maent yn helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac mae’r argyfwng costau byw yn eu rhoi mewn perygl wrth geisio cadw dau ben llinyn ynghyd a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Bydd yr apêl argyfwng costau byw yn darparu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau sy’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd ac unigolion lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi.
Mae’r apêl wedi derbyn cefnogaeth gan y cyhoedd, Llywodraeth Cymru a busnesau Cymreig fel Wind2, Dŵr Cymru ac, yn fwyaf diweddar, NatWest Cymru gyda’u rhodd o £100,000.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Bydd y rhodd hael hon gan NatWest Cymru yn mynd tuag at helpu grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i barhau i ddarparu gwasanaethau pwysig i’w cymunedau lleol.
Gobeithiwn y bydd y sioe hon o gefnogaeth gan NatWest Cymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a chefnogi grwpiau cymunedol i ddal ati yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Bydd y grantiau o’r apêl hon yn cyfrannu’n helaeth at sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru yn gallu cefnogi’r rhai mwyaf anghenus nawr, ac yn y misoedd anodd sydd i ddod.”
Dywedodd Jessica Shipman, Cadeirydd Bwrdd NatWest Cymru:
“Rydym yn fanc sy’n cael ei yrru gan ein pwrpas a’n gwerthoedd, ac ar hyn o bryd mae hynny er mwyn helpu ein cydweithwyr, ein cwsmeriaid a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt drwy’r heriau sy’n wynebu costau byw.
Drwy gydweithio â Sefydliad Cymunedol Cymru a Newsquest fel rhan o ymgyrch Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd, mae gennym gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r rhai sydd angen help yn ein cymunedau ledled Cymru.
Nid rhodd yn unig y mae Bwrdd NatWest Cymru wedi’i wneud; ein hymrwymiad fel rhan o’r ymgyrch hon a chymorth costau byw ehangach NatWest yw darparu cymorth lle mae ei angen fwyaf.”
Dywedodd golygydd rhanbarthol Newsquest Cymru, Gavin Thompson:
“Diolch i fwrdd NatWest Cymru am gefnogi yr apêl Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd.
Gall sefydliadau ledled Cymru nawr wneud cais am grantiau i gefnogi prosiectau costau byw o gronfa Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd.
Helpwch ni i gael y gair allan, fel bod y rhodd hael hon gan NatWest ac eraill sydd eisoes wedi’i wneud, yn cyrraedd y bobl sydd eu hangen trwy’r elusennau lleol gwych a’r sefydliadau cymunedol sy’n eu cefnogi.”
I wneud y gorau o bob rhodd, gellir paru rhoddion hyd at £25,000 gan unigolion, sy’n cyfateb i bob £1 a roddir gyda £1 ychwanegol.
Diolch i Sefydliad Steve Morgan, Sefydliad Waterloo a Sefydliad Moondance, gall busnesau Cymru hefyd wneud i’w rhodd fynd ymhellach gyda chyllid cyfatebol.
Gallwch gyfrannu i apêl Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd yma.
Mae’r gronfa bellach ar agor i geisiadau gan grwpiau sy’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ac unigolion lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi.
Gallwch wneud cais yma.