Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth
“Ges i wybod na allwn i fyth chwarae gitâr na bod mewn band, ond hey… fi yw’r chwaraewr bas yn y band a hyd yn oed wedi ysgrifennu’r llinell bas ar gyfer ein cân ‘Bob methu cael swydd’. Rydw i eisiau dangos i’r byd fy mod i’n chwaraewr bas da. Does dim ots os yw pobl yn ceisio eich rhoi chi lawr, mae’n rhaid i chi fynd allan a dangos eich bod YN gallu ei wneud!”
Mae Celfyddydau Cymunedol Emerge yn darparu prosiectau cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio yn y gymuned ac ar-lein ar draws Sir y Fflint a Wrecsam. Maent yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion sy’n profi anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl i ddysgu sgiliau newydd, mynegi eu hunain a thyfu eu talent.
Cawsant grant aml-flwyddyn gan Gronfeydd Sir y Fflint i dalu am ran o’r gost o logi technegydd sain i gefnogi eu band Sound Express. Mae gan eu haelodau i gyd anabledd dysgu. Mae’r band yn ysgrifennu ac yn recordio eu cerddoriaeth eu hunain ac yn cwrdd yn wythnosol i ymarfer, ysgrifennu a recordio cerddoriaeth a pherfformio ar-lein ac yn y gymuned leol ac ehangach.
Mae un o’u gwirfoddolwyr, Cal, wedi bod gyda’r grŵp yn gwella ei sgiliau sain a cherddoriaeth am dair blynedd. Roedd mewn perygl o ynysu cymdeithasol a diweithdra hirdymor oherwydd problemau iechyd meddwl ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol ac fe’i cyflogwyd am ddiwrnod yr wythnos i weithio gyda’r band i recordio eu cerddoriaeth a darparu cymorth technegol i’r band mewn digwyddiadau. Mae’r cyllid wedi helpu i ddarparu rhywfaint o ddiogelwch i Cal sydd wedi mireinio ei sgiliau ac wedi magu hyder.
Dywedodd Jack, sy’n gerddor gwirfoddol:
“Ni allaf golli dydd Gwener. Gan fy mod o gwmpas fy ffrindiau newydd, mae’n teimlo’n dda i fod yn helpu yn y gymuned.”
Dywedodd Cal, cynorthwy-ydd y gweithdy:
“Mae’n dda dysgu sgiliau newydd, gallaf sefyll i fyny a dweud fy mod i’n eithaf da am hynny!”