Cymru gyda chymunedau cryf a gweithgar
Byddwn yn atgyfnerthu cymunedau yng Nghymru drwy annog haelioni a rhoi i elusennau.
Ers dros ugain mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda chyllid i gryfhau cymunedau ar draws Cymru.
Ers 1999, rydym wedi dyfarnu dros £40m mewn grantiau i grwpiau cymunedol ac elusennau ar lawr gwlad ledled Cymru.
Rydym yn gweithio gyda’n cefnogwyr hael i gyrraedd y bobl fwyaf anghenus a helpu i feithrin newid cadarnhaol mewn cymunedau yng Nghymru.
Mae dros 30,000 o grwpiau cymunedol ac elusennau yng Nghymru sy’n gweithio i wella a datblygu eu cymunedau gan ddefnyddio eu menter eu hunain i ddiwallu anghenion lleol. Mae’r grwpiau a’r elusennau hyn yn deall yr heriau y mae’r bobl yn eu cymunedau yn eu hwynebu ac yn gwybod pa un yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.
Gwneir y gwaith hollbwysig hwn fel arfer o fewn cyllideb gyfyngedig neu yn wirfoddol, felly rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r prosiectau a’r sefydliadau gwych hyn, deall beth y maent yn ceisio ei gyflawni a’u cefnogi i wneud hynny.
Byddwn yn atgyfnerthu cymunedau yng Nghymru drwy annog haelioni a rhoi i elusennau.
Yn gyfnewid am eich angerdd a’ch ymrwymiad, gallwn gynnig amgylchedd gwaith a fydd yn eich helpu i dyfu a datblygu yn ogystal â sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Ymunwch â’n tîmMae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi’i ymrwymo i fod yn dryloyw. Rydym ni’n gweithio gyda 360 Giving er mwyn cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol o Ebrill 2018.
Darllen mwyYng nghanol dinas Caerdydd, dim ond taith gerdded fer o orsaf reilffordd Heol y Frenhines a Cathays, Caerdydd, mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru ystafell newydd ei hadnewyddu y gallwch chi ei llogi ar gyfer eich diwrnod hyfforddi, cyfarfod, seminar neu gyflwyniad.
Darllen mwy