Sefydliad Cymunedol Cymru yn penodi cadeirydd newydd

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi penodiad cadeirydd newydd, Judi Rhys MBE.
Bydd Judi yn cymryd yr awenau gan Alun Evans sy’n camu i lawr fel cadeirydd, ddiwedd Rhagfyr, ar ôl wyth mlynedd yn y rôl.

Mae Judi, sydd â mwy na 18 mlynedd o brofiad mewn uwch rolau yn y sector elusennol, yn ymuno â’r Sefydliad o elusen Gofal Canser Tenovus lle treuliodd bum mlynedd yn rôl Prif Weithredwr. Yn ystod ei hamser yng Ngofal Canser Tenovus, ymgyrchodd Judi yn ddiflino i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i bawb sydd wedi’u heffeithio gan ganser ledled Cymru.

Mae Judi wedi gweithio yn y trydydd sector ers 2006 mewn amryw o rolau uwch arweinyddiaeth mewn elusennau iechyd a gofal cymdeithasol, ac fel Prif Swyddog Gweithredol ers 2013. Mae hi wedi dal nifer o rolau ymddiriedolwr elusen, gan gynnwys Samariaid Cymru a Chymdeithas Alzheimer. Mae hi yn Gyfarwyddwr gyda Sport Wales, a bu’n gyfarwyddwr gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru tan 2022. Dyfarnwyd MBE i Judi yn 2021 am wasanaethau i’r sector gwirfoddol.

Ar ei phenodiad, dywedodd Judi:

“Mae’n anrhydedd cael fy newis fel Cadeirydd nesaf Sefydliad Cymunedol Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r staff a’r ymddiriedolwyr gwych i adeiladu ar eu heffaith sydd eisoes yn drawiadol, gan gefnogi sefydliadau llawr gwlad ym mhob cwr o Gymru. Diolch o galon i’r Cadeirydd presennol, Alun Evans am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig.”

Dywedodd Alun Evans, Cadeirydd presennol Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rwyf wrth fy modd bod Judi am fy olynu fel Cadeirydd Sefydliad Cymunedol Cymru. Rwy’n hollol hyderus fy mod yn gadael y Sefydliad mewn pâr diogel iawn o ddwylo.”

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Judi i Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’n gyfnod cyffrous i ni i gyd. Mae Judi wedi ymrwymo’n ddwfn i wella bywydau yng Nghymru a bydd yn dod â chyfoeth o brofiad i’r bwrdd a fydd yn helpu i lunio ac arwain ein gwaith i gefnogi cymunedau yng Nghymru.

Ar ran pawb yn Sefydliad Cymunedol Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i rannu ein diolch am gyfraniad rhagorol Alun Evans yn ystod y cyfnod hwn fel Cadeirydd ac am ei gefnogaeth bersonol anhygoel i mi a’r tîm. Hoffem ddymuno’r gorau iddo i’r dyfodol.”

News

View all

Over £1.3m awarded in grants to support Welsh communities through the cost of living crisis

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Making grants more accessible with Easy Read

Making grants more accessible with Easy Read