Gadael rhodd barhaol

Gadael rhodd barhaol

8–14 Medi yw Wythnos Cofio Elusen yn eich Ewyllys – amser da i gofio pa mor bwysig yw hi i roddi drwy ewyllys, er mwyn cefnogi’r achosion sydd fwyaf pwysig i ni.

Trwy ein grŵp rhwydweithio Spotlight, rydym yn cysylltu ag ystod eang o weithwyr proffesiynol ledled Cymru, gan gynnwys llawer yn y sector cyfreithiol. Yno y cwrddon ni â Catrin Wigley, Partner yn Nhîm Cynllunio Ystadau Hugh James LLP, sydd wedi rhannu ei harbenigedd ynglŷn â sut y gall cymynroddion elusennol chwarae rhan bwysig wrth gynllunio ystadau – a pham eu bod mor bwysig i elusennau a chymunedau.

Cwestiwn ac Ateb: Mewnwelediad Arbenigol ynglŷn â Threfnu Cymynroddion Elusennol

1. Pa mor gyffredin yw hi i bobl ofyn am roddi i elusen wrth ysgrifennu, neu ddiweddaru, eu hewyllys?
Mae’n dod yn fwy cyffredin i gleientiaid drafod cymynroddion elusennol wrth drafod eu hewyllys. Mae llawer o gleientiaid bellach yn codi’r pwnc yn rhagweithiol, ac rydym yn trafod y peth yn aml wrth drafod gwerthoedd, anghenion teuluol a chynllunio treth. Mae ymwybyddiaeth wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae cleientiaid yn aml yn gwerthfawrogi gwybod pa mor syml a phwerus y gall cymynroddion fod.

2. Beth yw’r peth cyntaf a ddywedwch wrth gleientiaid pan fyddant yn sôn am adael rhywbeth i elusen yn eu hewyllys?
Mae gadael cymynrodd elusennol mewn ewyllys yn syml ac yn effeithlon iawn o ran treth. Y peth allweddol yw i’r cleient nodi naill ai’r elusen a ddewiswyd ganddo/ganddi, neu’r gwaith a’r amcanion elusennol y maent am eu cefnogi. Rhaid i gleientiaid hefyd ddewis y math o rodd sy’n gweddu orau iddyn nhw a’u hamcanion, er enghraifft swm penodol, eitem rhodd bersonol benodol, neu ganran o weddill yr ystâd.

3. Beth yw’r prif fanteision treth i bobl sy’n cynnwys rhoddion elusennol yn eu hewyllysiau?
Mae cynnwys rhodd elusennol mewn ewyllys yn cynnig mantais Treth Etifeddiaeth (IHT). Mae rhoddion i elusennau cofrestredig yn y DU wedi’u heithrio o IHT. Os bydd o leiaf 10% o’r ystâd yn mynd i elusen, mae’r gyfradd IHT ar weddill yr ystâd, os yn drethadwy, yn gostwng i 36%, o gymharu â’r gyfradd arferol o 40%.

4. Oes isafswm y mae angen i bobl ei ystyried wrth feddwl am gymynroddion elusennol, neu gall unrhyw swm wneud gwahaniaeth?
Gall unrhyw swm wneud gwahaniaeth ystyrlon i waith elusen ac nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar faint y gymynrodd. I lawer, mae gadael canran o weddill yr ystâd yn apelio gan ei fod yn tyfu gyda’r ystâd, ac yn osgoi’r angen i adolygu symiau penodol. Mae gwell gan eraill swm mwy penodol. Mae’r ddau yn gwbl dderbyniol.

5. Sut ydych chi’n helpu cleientiaid i adael arian i’r teulu yn ogystal â chefnogi’r achosion sy’n bwysig iddynt?
Mae trafodaethau agored am anghenion y teulu, ac unrhyw hawliadau posibl yn erbyn yr ystâd, yn fan cychwyn da. Gellir siapio’r rhodd elusennol o amgylch y trafodaethau hyn. Yn aml, bydd angen ystyried defnyddio canrannau yn hytrach na symiau penodol i alluogi’r teulu a’r elusennau i rannu’r ystâd yn deg. Gellir cynnwys rhoddion ar sail amodol hefyd, er enghraifft, os yw gwerth yr ystâd yn uwch na swm penodol, neu rodd i elusen os yw’r buddiolwr teuluol penodedig wedi marw yn gyntaf. Mae hi hefyd yn opsiwn cael strwythur cronfa hyblyg, er enghraifft os ydych yn edrych ar ôl partner am oes, a gall yr arian sy’n weddill wedyn gael ei roddi i elusen. Y ffordd orau i leihau camddealltwriaeth yw cyfathrebu’n glir gyda’r teulu a chynnwys llythyr byr sy’n egluro’r dymuniadau a’r rhesymeg.

6. Ydy pobl yn fwy awyddus i gefnogi achosion lleol yn hytrach na rhai cenedlaethol pan ddaw i’w hewyllys?
Mae cleientiaid yn tueddu i gefnogi sefydliadau neu achosion sydd wedi cael effaith ar eu bywydau, er enghraifft hosbis leol, grwpiau cymunedol, neu ysgolion. Ar yr un pryd, mae rhoi i elusennau cenedlaethol meddygol, cadwraeth neu achosion dyngarol yn parhau i fod yn boblogaidd. Nid oes “ateb cywir”. Yr hyn sy’n bwysig yw eglurder: beth bynnag fo maint neu leoliad yr elusen, mae’n hanfodol sicrhau bod yr ewyllys yn cyfeirio at yr enw cyfreithiol cywir a rhif cofrestru’r elusen, ac yn cynnwys darpariaeth wrth gefn os bydd yr elusen yn newid enw yn y dyfodol.

7. Pa mor gynnar y dylai pobl fod yn meddwl am gynnwys rhoddion elusennol wrth drefnu eu hystadau?
Nid yw byth yn rhy gynnar i feddwl am gynnwys rhoddion elusennol fel mesur effeithiol o drefnu ystâd. Dylid ystyried rhoddion elusennol pryd bynnag y caiff ewyllys ei adolygu, ac yn enwedig os bydd amgylchiadau cleient yn newid, er enghraifft os bydd gwerth yr ystâd yn cynyddu’n sylweddol. Wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid, gellir defnyddio ewyllys newydd neu atodiad byr i addasu’r rhodd a sicrhau bod manylion yn gyfredol.

8. Pa gwestiynau y dylai cyfreithwyr ofyn i gleientiaid sy’n mynegi diddordeb mewn rhoi i elusen, er mwyn eu helpu i wneud y dewis cywir?
Os bydd cleientiaid yn mynegi diddordeb mewn rhoi i elusen, yna dylid ystyried y cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw blaenoriaeth y cleient a phwrpas y gymynrodd: pa achosion sydd fwyaf pwysig, a pham?
  2. Pa fath o rodd sydd fwyaf priodol: swm penodol, eitem benodol, neu ganran o weddill yr ystâd?
  3. Y sefyllfa dreth: a fyddai cyrraedd y trothwy 10% yn briodol neu’n fuddiol i’r ystâd?
  4. Adnabod yr elusen: enw cyfreithiol, rhif cofrestru a chyfeiriad. A ddylid cynnwys rhodd wrth gefn os bydd yr elusen yn newid neu’n cau?
  5. Cyfyngiadau: a ddylid cyfeirio’r rhodd at brosiect neu leoliad penodol?
  6. Cydnabyddiaeth a chyswllt: ydy’r cleient eisiau i’r elusen wybod am y gymynrodd yn ystod ei oes?
  7. Deinameg teuluol: oes dibynyddion neu eraill a allai ddisgwyl darpariaeth, a sut i leihau’r risg o anghydfodau?
  8. Oes elusen bresennol sy’n ateb y dibenion? Os na, oes strwythurau neu sefydliadau eraill a allai helpu i sefydlu cronfa elusennol yn enw’r cleient?

Rydym yn ddiolchgar i Catrin am rannu ei harbenigedd, sy’n dangos pa mor syml – a phwerus – all fod i gynnwys rhodd elusennol yn eich ewyllys. Os hoffech ddarganfod sut y gall eich cymynrodd wneud gwahaniaeth parhaol mewn cymunedau ledled Cymru, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi.

Mae’n fantais unigryw i sefydlu cronfa cymynrodd gyda ni

Mae pwynt olaf Catrin am sefydlu cronfeydd elusennol “yn enw’r cleient” yn arbennig o berthnasol i’r hyn rydym yn ei gynnig yn Sefydliad Cymunedol Cymru. Er bod elusennau traddodiadol yn gwneud gwaith ardderchog, mae cronfa cymynrodd gyda ni yn cynnig manteision unigryw:

  • Personol a pharhaol: Addaswch eich cronfa i’r achosion sy’n bwysig i chi, gyda’r hyblygrwydd i addasu wrth i anghenion newid. Gall eich cronfa gario eich enw neu anrhydeddu rhywun annwyl.
  • Arbenigedd lleol: Mae ein gwybodaeth fanwl am gymunedau Cymru yn sicrhau bod eich haelioni yn cael yr effaith fwyaf.
  • Proffesiynol a dibynadwy: Rydym yn rheoli’r cymhlethdodau ac yn sicrhau cysondeb, fel bod eich dymuniadau’n cael eu cyflawni hyd yn oed os bydd elusennau unigol yn newid neu’n cau.
  • Cynnwys y teulu: Gall aelodau o’r teulu chwarae rôl gynghorol, gan barhau â’ch gwerthoedd elusennol ar draws cenedlaethau.

Pan fyddwch yn creu cronfa etifeddiaeth gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, nid yn unig ydych yn cefnogi gwaith elusennol presennol, rydych yn agor drysau i bosibiliadau newydd ar gyfer newid cadarnhaol ledled Cymru.

News

View all
A future in medicine: Daniella’s story

A future in medicine: Daniella’s story

Applications open for Principality funds supporting communities across Wales

Applications open for Principality funds supporting communities across Wales

Annette Bryn Parri Fund

Annette Bryn Parri Fund

Over £1.3m awarded in grants to support Welsh communities through the cost of living crisis