Lleihau pwysau meddwl myfyriwr prifysgol
Mae fyfyriwr sy’n astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd bwrsariaeth o £3,000 iddo, £1,000 ar gyfer pob blwyddyn o’i gwrs gradd tair blynedd.
“Diolch i’r arian a gefais, roeddwn yn sefydlog yn ariannol drwy gydol fy ail flwyddyn, heb fynd i’m gorddrafft o gwbl, ac rwyf wedi llwyddo i gael gradd 2:1. Roedd y grant wedi helpu gyda hyn oherwydd bu’n rhaid i mi dalu rhent dros yr haf ar gyfer fy fflat. Dim ond swydd rhan amser oedd gen i, felly baswn wedi ei chael hi’n anodd yn ariannol ar ddechrau fy nghwrs, ond roedd y grant wedi fy helpu i aros yn sefydlog ac wedi fy ngalluogi i barhau i dalu fy rhent a fforddio i brynu bwyd, gan leihau’r straen arnaf a’m galluogi i ganolbwyntio ar fy nghwrs.
Mae’r grant hwn wedi cyfrannu’n sylweddol at fy mherfformiad ar fy nghwrs. Gyda biocemeg, a phob math o wyddoniaeth, mae angen dadansoddi llawer mwy o lenyddiaeth wyddonol er mwyn creu protocolau gwyddonol, adolygiadau o lenyddiaeth, traethodau ac adroddiadau. Gellir cael mynediad at y rhan fwyaf o bapurau yn rhad ac am ddim, ond mae angen talu am rai ohonynt ac roeddwn yn gallu gwneud hyn o bryd i’w gilydd er mwyn ceisio dod i hyd i’r llenyddiaeth orau ar y pwnc perthnasol. Roedd hyn wedi fy helpu i ennill y radd orau yn fy nosbarth (88%) ar gyfer un o’m traethodau. Rwyf hefyd wedi gallu prynu llawer o offer ysgrifennu, y cyfarpar perthnasol a thrwsio fy ngliniadur.