Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, and Ynys Môn

Applications for this grant are open

Mae'r gronfa hon bellach ar gau. Cofrestrwch i'n Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Cofrestrwch in Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Crëwyd Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain o fewn ysbryd diben craidd sefydliad Cymru yn Llundain, sef pontio Cymru a Llundain a thu hwnt.

Mae’n helpu myfyrwyr a phobl flaengar sydd megis dechrau yn eu gyrfaoedd i gyflawni eu dyheadau. Er enghraifft, bydd yn cwmpasu’r costau sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr, ysgoloriaethau, bwrsariaethau busnes, profiad gwaith/datblygu gyrfa.

Y grantiau sydd ar gael

Gall unigolion wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000 (Mae’n debygol mai dim ond un grant o £5,000 a roddir)

Pwy all wneud cais?

  • Gall pobl ifanc a gafodd eu geni/eu haddysgu yng Nghymru y bydd ysgoloriaeth/bwrsariaeth yn eu galluogi i ddatblygu eu haddysg, dysgu, busnes a sgiliau gyrfa, ac yn ehangu eu gorwelion yn Llundain neu y tu allan i Gymru.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol

Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus addo i ‘roi yn ôl’, nawr neu yn y dyfodol, i Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain neu i gymdeithas yn fwy cyffredinol. Er enghraifft drwy roi cymorth pro bono, rhoddion elusennol, cynnal gweithgareddau codi arian, gwirfoddoli ac ati, fel dulliau rhoi dyngarol.

Gellir gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu a rhoi cyflwyniadau yn nigwyddiadau Sefydliad Cymunedol Cymru neu ddigwyddiadau Cymru yn Llundain yn ystod y flwyddyn yn dilyn cael y grant, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r noddwyr am y ffordd y mae’r grant wedi cyfrannu tuag at eu datblygiad. Bydd Sefydliad Cymunedol Cymru hefyd yn disgwyl adroddiad monitro, a byddai wir yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth ddiweddaraf gan fuddiolwyr fel y gallwn fesur effaith tymor hir ein grantiau.

How to apply?

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi’r ffurflen gais isod.

Apply now

Grants

View all

Cynnal Endowment Fund – Groups

All, Gwynedd, Isle of Anglesey and North Wales

Principality Building Society Retrofit for the Future Fund

All, Blaenau Gwent, Bridgend

North East Wales Science Fund – Individuals

All, Conwy, Denbighshire

Cynnal Endowment Fund – Individuals

All, Gwynedd, Isle of Anglesey and North Wales