Eleri Phillips Adams
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

Fy nghefndir
Cyn ymuno â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Mawrth 2025, bûm yn gweithio gyda nifer o sefydliadau blaenllaw Cymru, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, RSPB Cymru, Celfyddydau & Busnes Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi arwain ymgyrchoedd cenedlaethol ac wedi adeiladu cysylltiadau ystyrlon sy’n helpu sefydliadau i adrodd eu straeon mewn ffordd sy’n teimlo’n driw i’w gwerthoedd.
Rwyf wedi gweithio i gryfhau brandiau, gwella cyfathrebu yn fewnol ac yn allanol, a sicrhau bod negeseuon yn glir ac yn cysylltu â’r gynulleidfa gywir. Rwy’n hoff o weithio gyda rhanddeiliaid, y llywodraeth, a chymunedau i ddatblygu syniadau a phrosiectau newydd sy’n cael effaith wirioneddol – mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol yn fy marn i!
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n canolbwyntio ar hyrwyddo Sefydliad Cymunedol Cymru ac arddangos y gwaith gwych sy’n digwydd ar draws cymunedau Cymru. Rwy’n arwain datblygiad ein strategaeth cyfathrebu a marchnata, yn helpu i lunio ein brand, ac yn creu cynnwys sy’n amlygu straeon ysbrydoledig y bobl a’r prosiectau rydym yn eu cefnogi. Trwy farchnata a chyfathrebu strategol, rwyf hefyd yn helpu i gryfhau partneriaethau gyda rhoddwyr a chyllidwyr, gan ein galluogi i ymestyn ein cyrhaeddiad. Mae hyn yn amlygu gwaith hanfodol cymunedau Cymru a’r unigolion a’r sefydliadau hael sy’n gwneud y cyfan yn bosibl.
Holwch fi ynghylch
Storiâu diddorol Sefydliad Cymunedol Cymru, a sut y gallwn gydweithio i ddod â’r rhain yn fyw. Rwyf wrth fy modd yn gweithio’n strategol, yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o roi llais i bobl a gwneud gwahaniaeth parhaol.
Pam rwy'n caru Cymru
Pam na fyddai unrhyw un yn caru Cymru?! Rwyf mewn cariad gyda’n cenedl arbennig. Mae ein tirweddau a’n cacenni cri yn wych, ac mae gennym ni ddraig goch anhygoel fel emblem! Ond yr hyn sy’n gwneud Cymru’n arbennig yw’r bobl. Ein cymunedau clos, ein croeso cynnes, a pa mor falch ydyn ni i fod yn Gymraeg. Heb os, mae Cymru yn gwneud i chi deimlo’n rhan o deulu, cartref yw Cymru i mi.