Cydweithrediad Nadoligaidd gyda Jasmine Calloni

Edrych ar waith Jasmine, ei llwybr creadigol, a'i chydweithrediad gyda Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cydweithrediad Nadoligaidd gyda Jasmine Calloni

Y Nadolig hwn, crëwyd ein cerdyn digidol gan Jasmine Calloni, graddedig diweddar mewn Darlunio a dderbyniodd gyllid yn flaenorol drwy Gronfa Gwaddol Cymuned Powys, i gefnogi ei hastudiaethau a’i hymarfer proffesiynol cynnar.

Astudiodd Jasmine Ddarlunio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac mae’n gweithio mewn arddull unigryw sy’n cyfuno print traddodiadol â thechnegau digidol. Gyda chymorth ei grant, llwyddodd i barhau i weithio gyda phrosesau argraffu corfforol ar ôl gadael y brifysgol, sefydlu stiwdio gartref, a chymryd y camau cynnar tuag at ddod yn ddarluniwraig hunangyflogedig, gan gynnwys hunan-gyhoeddi ei llyfr cyntaf.

Ar gyfer cerdyn Nadolig eleni, gwahoddwyd Jasmine i ddehongli rin briff yn ei ffordd ei hun, gan greu rhywbeth cynnes, ystyriol ac yn driw i’w harddull. Dyma ragor o wybodaeth am Jasmine a sut y daeth y cerdyn Nadolig at ei gilydd…

Allwch chi rannu mwy amdanoch chi’ch hun a’ch gwaith?

Astudiais Ddarlunio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae fy arddull yn cyfuno prosesau traddodiadol â chelf ddigidol i greu delweddau printiedig, hiraethus. Ar hyn o bryd, mae ffocws fy ymarfer ar greu straeon ac adnoddau y byddwn i, yn bersonol, wedi eu caru neu wedi elwa ohonynt fel plentyn. Er bod fy arddull yn tueddu’n naturiol tuag at ddarlunio i blant, nid wyf am gyfyngu fy hun i gynulleidfa blant yn unig, ac rwy’n cael fy nenu’n fawr at y syniad o greu gwaith y gall pob oed ei fwynhau.

Sut wnaeth eich grant gan Sefydliad Cymunedol Cymru eich helpu fel artist?

Fe wnaeth y grant a gefais gan Sefydliad Cymunedol Cymru fy helpu i sefydlu stiwdio fy hun fel y gallaf barhau i ddefnyddio prosesau argraffu corfforol ar ôl dychwelyd adref o’r brifysgol. Yn bennaf oll, bu’r grant yn talu am fy nghyflenwadau celf drwy gydol fy ngradd.

Gan fod cyrsiau celf fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddarparu eu deunyddiau eu hunain a thalu am argraffu, gall grant fel hwn roi cyfle i fyfyrwyr fel fi archwilio ac arbrofi gyda deunyddiau ar sail gyfartal â gweddill eu cyd-fyfyrwyr, heb boeni gymaint am gostau – gan sicrhau bod cynnydd mewn addysg yn seiliedig ar ddysgu yn hytrach nag incwm. Fe wnaeth y grant hwn hefyd fy helpu i hunan-gyhoeddi fy llyfr cyntaf, yn dilyn prosiect terfynol fy nghwrs.

Gwnaeth Jasmine gais am gyllid yn wreiddiol i’w helpu i barhau ag ymarfer dan arweiniad y tu hwnt i’r brifysgol, gan gynnwys mynediad at offer proffesiynol, deunyddiau, offer sganio, a’r gallu i ddatblygu busnes creadigol bach drwy ffeiriau pop-up, gwerthiant ar-lein a hunan-gyhoeddi. Fe wnaeth y cyllid hefyd leddfu cryn dipyn o bwysau ariannol yn ystod ei blwyddyn olaf, gan ganiatáu iddi ganolbwyntio’n llawn ar gynhyrchu ac arddangos ei gwaith gradd. Yn gynharach eleni, gwahoddwyd Jasmine i ddylunio ein cerdyn Nadolig digidol 2025.

Sut wnaethoch chi fynd ati i droi ein briff yn ddarlun yn eich steil eich hun?

Ar gyfer y briff hwn, roeddwn eisiau creu golygfa aeafol Gymreig yn fy steil fy hun a oedd yn creu teimlad o gynhesrwydd a chydlyniant, gan fod y themâu hyn yn ganolog i’m gwaith ac i neges Sefydliad Cymunedol Cymru. Creais bedwar cysyniad cychwynnol yn archwilio gwahanol olygfeydd aeafol a chymeriadau. Ar ôl dewis cyfeiriad penodol, cwblheais y ddelwedd gan ddefnyddio fy nghymysgedd arferol o baentio a lliwiau cynnes.

Fy nod oedd creu cerdyn oedd yn teimlo’n gynnes ac yn aeafol, ac a oedd yn adlewyrchu themâu Sefydliad Cymunedol Cymru heb ymddangos yn rhy gorfforaethol.

Rhennir y gwaith celf gorffenedig gyda’n rhoddwyr, partneriaid, deiliaid cronfeydd, Cyfeillion, Ymddiriedolwyr a chefnogwyr ledled Cymru, ochr yn ochr â’n fideo uchafbwyntiau 2025.

Wrth edrych ymlaen, ble fyddech chi wrth eich bodd i’ch gwaith creadigol eich arwain nesaf?

Fy nghamau nesaf yw parhau i ddatblygu fy musnes, gan ddefnyddio rhandaliad olaf fy ngrant i ehangu fy nghatalog hunan-gyhoeddedig. Rwyf hefyd yn gobeithio cysylltu’n agosach â sefydliadau iechyd meddwl a phrofedigaeth plant mewn perthynas â’m llyfr cyntaf, The Fallen Tree.

Yn yr hir-dymor, byddwn wrth fy modd yn dilyn cwrs meistr mewn Darlunio Llyfrau Plant ac yn cysylltu â chyhoeddwyr llyfrau annibynnol yng Nghymru ar gyfer fy straeon.

Ble gall pobl weld mwy o’ch gwaith neu ddilyn eich busnes?

Gallwch ddod o hyd i’m gwaith ar Instagram yn @wimsii_illustration, lle rwy’n rhannu fy lluniau, prosiectau llyfrau a diweddariadau siop. Rwyf hefyd yn gwerthu fy llyfrau, printiau a chynhyrchion llaw drwy fy siop Etsy.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Jasmine am rannu ei gwaith a’i stori gyda ni y Nadolig hwn. Os hoffech weld mwy o’r hyn y mae ein cymunedau, ein partneriaid a’n cefnogwyr wedi helpu i’w wneud yn bosibl eleni, gallwch archwilio ein Hadolygiad Blwyddyn 2025 yma.

Stories

Helping vulnerable residents recover

Helping vulnerable residents recover

Hawarden and District Relief in Need Fund

From Student to Paramedic

From Student to Paramedic

Educational Fund for Denbigh and Surrounding Areas

Drama sessions build confidence in Denbigh

Drama sessions build confidence in Denbigh

Educational Fund for Denbigh and Surrounding Areas

Communities connected by nature

Communities connected by nature

Denbighshire Community Endowment Fund