Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, and Ynys Môn
Applications for this grant are closed
Cofrestrwch i‘n Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.
Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o wella’r amgylchedd yng Nghymru.
Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd i’r rhai sy’n cael eu tanwasanaethu neu’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion o gefndiroedd nodwedd gwarchodedig 2010 Deddf Cydraddoldeb ac unigolion o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddem yn disgwyl gweld arolwg ynni sy’n dangos bod yr adeilad yn addas i’w uwchraddio ac yn debygol o weld buddion arbed ynni yn ogystal â chael effaith amgylcheddol gadarnhaol oherwydd gosod yr uwchraddiad hwn.
Enghreifftiau o welliannau amgylcheddol y byddwn yn eu hystyried:
- paneli solar neu pympiau gwres
- inswleiddio
- goleuadau ynni effeithlon
- storio batri
Grantiau ar gael
Grantiau mawr o hyd at £25,000 am flwyddyn.
Byddem yn disgwyl i geisiadau allu dangos sut y byddai’r prosiect yn effeithio ar yr amgylchedd a lle bo hynny’n bosibl, unrhyw arbedion ynni blynyddol disgwyliedig a fyddai’n dod yn sgil y rhandaliad.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm o dros £500,000 oni bai bod modd gwneud achos untro eithriadol. E.e. Mae grant Cyfalaf wedi mynd dros y lefel incwm am 1 flwyddyn yn unig.
Byddem yn annog ac yn croesawu sgwrs cyn gwneud cais.
- Grwpiau Cyfansoddol
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
- Mentrau Cymdeithasol
How to apply?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.
Sylwer:
- Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
- Nid yw grantiau ar gael tuag at godi arian cyffredinol nac i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
- Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
- Gall grwpiau gyflwyno un cais am grant bach neu fawr yn unig.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Safonau Gofynnol
Contact us
You can contact us on 02920 379 580 or fill out the contact form below for more information.
Make sure you're eligible
Please read the following text to ensure your eligibility before beginning your application: