Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Drwy ein gwaith gydag elusennau llawr gwlad a grwpiau cymunedol ledled Cymru, gwyddom nad mae ein cymunedau yn agored ac yn gefnogol, gan estyn croeso cynnes i’r rhai sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro ac yn ceisio noddfa yng Nghymru.

Mae ein gwybodaeth helaeth am sefydliadau llawr gwlad a thrydydd sector yn golygu y gallwn gyrraedd yr elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu’r math hwn o gefnogaeth, yn gyflym ac yn effeithlon.

Rydym yn gwybod bod sefydliadau sy’n helpu’r rhai sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro angen cymorth nawr yn fwy nag erioed, felly rydym yn apelio ar bobl a busnesau i gyfrannu at Gronfa Croeso Cenedl Noddfa fel y gallwn barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl sydd wedi’u dadleoli gan gwrthdaro a cheisio noddfa yng Nghymru.

 

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa yn darparu cefnogaeth hanfodol i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau Cymru sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro, y mae rhai ohonynt wedi cyrraedd Cymru yn ddiweddar, gan roi cymorth hanfodol iddynt a’u helpu i ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd.

Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa wedi derbyn cyfraniadau hael gan Lywodraeth Cymru, Moondance a Gwendoline a Margaret Davies Elusen yn ogystal â nifer o roddion gan y cyhoedd yng Nghymru.

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Darllenwch fwy am effaith Cronfa Croeso Cenedl Noddfa: