T D Jones (Llanfair Clydogau)
Paula Barker, Ymddiriedolwr
“Fel llawer o eglwysi pentref bach, mae cynulleidfa ein un ni wedi lleihau. Fel ysgrifennydd a warden yr eglwys, ymhlith y problemau niferus oedd swm o arian elusennol wedi ei adael i ddarparu llyfrau i blant yr ysgol Sul. Roedd y gwrthrychau wedi eu newid er mwyn caniatáu cymorth i blant yr ysgol leol, ond nid oedd ymddiriedolwyr yr elusen bellach mewn sefyllfa i weithredu ac nid oedd unrhyw arian wedi’i ddosbarthu.
“Gyda rhywfaint o ryddhad y cawsom wybodaeth am Raglen Adfywio Ymddiriedolaethau. Roedd yn ymddangos yn eithaf brawychus i ddechrau a’r broblem gyntaf oedd olrhain y llofnodwyr cywir ar gyfer y gwaith papur. Fodd bynnag, fe wnaeth Laura Cameron Long, Rheolwr y Rhaglen yn UKCF, fy arwain drwy bob cam o’r ffordd. Profwyd nad oedd anhawster o gwbl ac fe aeth yr holl broses o drosglwyddo’r arian i Sefydliad Cymunedol Cymru heb broblem.
“Yr agwedd fwyaf foddhaol o hyn yw bod yr arian bellach o gymorth gwirioneddol lle bo angen ac rydym yn teimlo’n sicr y byddai’r rhoddwr gwreiddiol yn cymeradwyo hynny.”