David Gold
“Rwy’n treulio llawer o amser yng Nghymru, rwyf wrth fy modd yn bod yma ac mae gennyf gymuned leol yn Sir Benfro yr wyf yn teimlo’n rhan ohoni. Er fy mod yn cyfrannu’n lleol yn Sir Benfro, ardal yr wyf yn angerddol amdani, credaf hefyd fod eich cymuned yn ymestyn yn ehangach na’r radiws pum milltir lle rydych yn byw. Felly, penderfynais fuddsoddi yng ngweddill Cymru, drwy ddod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru.”